cyfeiriad at y Capel. Bedyddiwyd tri, y cyntaf yn 1722; yr ail, yn 1724; a'r trydydd, yn 1728. Wele'r dyfyniad :
(1.) "Lettuce, daughter of Henry David, Chapel, Llanfair.
(2.) 1724.(3.) Capel, Llanfair.
1728.Dec. 22. David, son of Harry David, Chapel, Llanfair.
(e.) CAPEL DEWI. Safai y Capel hwn ar dir Gwarcoed Isaf. Cyflwynwyd ef i Sant Dewi. Yr oedd yma fynwent. Yr olaf a gladdwyd ynddi oedd brawd Benjamin Jones, Penbanc. Y mae genym ddau brawf i brofi hyn: (1.) Dywedodd Daniel Jones, Gwarcoed Uchaf, wrth ei fab John, yn awr o Moelhedog, mai brawd Benjamin gladdwyd ddiweddaf, ac nad oedd fawr gwahaniaeth oedran rhyngddynt; o'r ddau frawd, Benjamin oedd yr ieuangaf. Gan i Benjamin Jones farw Gorphenaf 22, 1863, yn 79 oed, a chan gyfrif 4 blynedd o wahaniaeth rhwng y ddau frawd, claddwyd y diweddaf yma tua 1780. (2.) Tystia Hannah Thomas, gynt o'r Cwm, yn awr Cestyll ger Maesycrugiau, mai brawd ei thad, sef Benjamin Jones, Penbanc, gladdwyd yma ddiweddaf. Cofia yr hen wraig Hannah Thomas gerrig beddau yma, gwelodd benglogau hefyd. David Jones, Dolfor, drawsnewidiodd y fynwent yn ardd, a chafodd ddarn o arian yno; symudodd ddarnau o gerrig y beddau i ffwrdd. Cynnelid ffair yn y cae ger y fynwent bob mis Mawrth, ond symudwyd hi i Lanarth, am y rheswm fod y ddiod a faeswyd o ddwfr ffynon Dewi yn feddwol (sic!) Yr oedd y dybiaeth fod dwfr y ffynon yn "golchi" drwy y fynwent, ac felly yn anmhur. Bu yma Ysgol Ddyddiol am amser. Bu y diweddar Evan Jones, Abereinon, yn yr ysgol pan yn llencyn.
(f.) CAPEL BORTHIN. Safai y Capel hwn ar dir Blaen Borthin, ond ffurfia y cae yn awr rhan o fferm Bryn Martin. Gellir gweled perth yn cyrhaedd o'r clawdd yn ymyl y brif heol i ganol y cae. Y mae traddodiad yn yr ardal fod y berth hon yn ffin ddeheuol i'r fynwent. Dywedodd hen wraig o'r enw Mary Williams, Panteg, ar dir Mr. Charles Lloyd, Waunifor, iddi glywed i Mr. T.