Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

capel; gwnaed trefniadau tuag at hynny, a sicrhawyd y man lle y saif y capel arno yn rhydd-ddaliadol. Gosodwyd y gwaith o'i adeiladu i Mr. Shaw, Birkenhead; ond Mr. Evan Jones, Groeslon, a'i cwblhaodd. Aeth y draul yn £2,700. Ychwanegwyd ato dŷ capel ac ysgoldy, aeth y cyfanswm yn £2,860, ac agorwyd ef yn y flwyddyn 1897. Dychwelodd y swyddogion cynorthwyol i'w heglwysi yn Awst, 1899. Yn y flwyddyn ddilynol, dewisodd yr eglwys swyddogion o'i phlith ei hunan, sef Mri. J. Rhys Evans, Josiah Kellow, John McKay, James McKerrow, a Henry Parry. Ni bu arhosiad y Parch. D. E. Jenkins yn hir wedi agoryd y capel. Yn Awst, 1900, symudodd i Ddinbych. Am ysbaid wedyn bu'r eglwys heb weinidog arni, hyd 1903, pryd y daeth y Parch. E. P. Hughes i gymeryd ei gofal ym mis Ionawr. Symudodd dau o'i swyddogion o'r dref i fyw, sef Mr. McKerrow a Mr. McKay; a symudodd y Parch. E. P. Hughes yn Rhagfyr, 1904. Yn Awst y flwyddyn honno ychwanegodd yr eglwys Mri. Thomas Jones ac R. Newell at ei swyddogion; ac yn y flwyddyn 1906 rhoddodd alwad i'r Parch. Enoch Ellis Jones, oedd ar y pryd yng Ngholeg y Bala. Dechreuodd yntau ar ei waith yn Rhagfyr y flwyddyn honno, a bu'n llafurio'n llwyddiannus hyd ei ymadawiad i gymeryd gofal eglwys Seisnig a Bowydd, Blaenau Ffestiniog, ym Mehefin, 1910. Yn Ionawr, 1911, daeth yr eglwys i gytundeb âg eglwys y Garth i gael gwasanaeth y Parch. W. T. Ellis, B.A., B.D., yn gysylltiedig â'i waith yn y Garth; a doeth a fu'r trefniad. Eleni symudodd Mr. Kellow i fyw i Griccieth, ar ol gwasanaethu'r eglwys fel diacon o'i chychwyniad. Yn Rhagfyr, 1912, rhifai y cymunwyr 46: plant ac ymgeiswyr, 20. Yr holl gynulleidfa, 97. Yr Ysgol Sabothol: swyddogion ac athrawon, 9; cyfanrif yr Ysgol, 56.

Yr oedd cyfanswm holl dderbyniadau'r eglwys am y flwyddyn yn £170, a'r ddyled yn £636.

Y Swyddogion Presennol

Y Gweinidog—Y Parch W. T. Ellis, B.A., B.D. Diaconiaid.
Mri. Henry Parry, J. Rhys Evans, M.A.. Richard Newell (Trysorydd), a Thomas Jones.