Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi eu ffrio neu eu briwlio yn nanedd y grât. Ond er ei holl hynodion, efe ddysgodd y tô cyntaf o forwyr Porthmadog mewn morwriaeth. Yn yr ystafell honno y bu'r Bedyddwyr Albanaidd yn addoli gyntaf; ond ychydig o gyfathrach a fu rhwng yr athraw â'r crefyddwyr, ac ychydig o fendith a ddymunodd ar eu rhan.

Y cofnodiad nesaf sydd gennym am addysg yw mewn cytundeb a wnaeth swyddogion eglwys Salem â'i gweinidog cyntaf,—y Parch. Henry Rees. Wele'r cytundeb:—"Mewn cyfarfod o'r pwyllgor sydd a'u henwau isod, a gynhaliwyd yng Nghapel yr Annibynwyr ym Mhorthmadog 11eg o Ionawr, 1830, cytunwyd ar y penderfyniad canlynol:—"Ein bod yn barod i ymrwymo i sicrhau y swm o ugain punt am y flwyddyn yn diweddu 11eg o Ionawr, 1831, i Mr. Henry Rees, a thanysgrifio'n gyfartal cydrhyngom unrhyw swm y gall cyfraniadau'r plant yn ystod yr amser fod yn fyr o'i gyrraedd, os yr ymgymera Mr. H. Rees a chynnal ysgol ddyddiol yn y capel, lle y gall unrhyw nifer o blant—heb fod dros 40 o rif ar yr un adeg—o ddewisiad y pwyllgor, gael eu dysgu mewn sillebu, darllen, ysgrifennu, a rhifyddiaeth. Y gwaith i'w wneud yn Saesneg.

J. S. SHAW, Cadeirydd.

John Williams, William Roberts, Thomas Jones, Daniel Morris, James Evans, Robert Ellis, John Watkins, David Richards, David Jones, Evan Evans, Henry Jones, Griffith Lloyd, Henry Hughes, John Griffith, Robert Griffith, W. Williams, Parch. John Evans, J. C. Paynter, Robert Griffith.[1]

Yr wyf wedi methu canfod am ba hyd y cynhaliwyd ysgol ddyddiol yng nghapel Salem.

YR YSGOL FRYTANAIDD.

Adeiladwyd y gyntaf.1838
Adeiladwyd un newydd 1869


Prif Athrawon.—Mr. Good, Mr. Morris Davies (1844-49). Mr. Evan Jones, Mr. Rhys Roberts, Mr. R. W. Jones, Mr. Hancock, Mr. Owen Griffith, Mr. John Williams (1864-73), Mr. Hugh Jones (1873-77).

Prif Athrawon Adran y Babanod.—Miss Ellen Owen (1870 -71), Miss Rachel A. Williams (1872-73), Miss Ford (1873-77).

  1. Y Dysgedydd, 1870. tud. 123.