Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y wlad, sef oedd y rheiny,—Treth leol orfodol, cynrychiolaeth awdurdod leol, ynghyda gorfodaeth ar bob plentyn i fynychu'r ysgol. Yr oedd y Bwrdd Ysgol i sefydlu ysgolion mewn mannau lle nad oedd y cyfleusderau addysg yn ddigonol, neu pan wneid cais am un gan yr etholwyr. Pan ddaeth y Ddeddf uchod i rym yr oedd cefnogwyr yr Ysgol Frytanaidd, a chefnogwyr addysg rydd ym Mhorthmadog, yn awyddus i'w mabwysiadu; a'r un modd rheolwyr yr Ysgol Genedlaethol ar y cyntaf. Yn nechreu Tachwedd ymwelodd boneddwr, oedd yn dal cysylltiad âg addysg, â Phorthmadog, i egluro'r Ddeddf, a chyffesai'r ddwy blaid mai mantais a fuasai mabwysiadu'r Bwrdd.

Yn nechreu'r flwyddyn 1871 cynhaliwyd cyfarfod i'r diben o anfon cais am dano. Yr oedd y Parch. Daniel Rowlands, M.A., wedi ei wahodd i'r cyfarfod i egluro'r Ddeddf. Cynhygiodd y Parch. William Ambrose:—"Fod y cyfarfod yn ystyried ei bod yn ddymunol anfon cais am gael Bwrdd Addysg yn y plwyf.' Cefnogwyd Mr. Ambrose gan y Parchn. William Jones a Thomas Owen. Ceisiodd y Parch. D. Rowlands annerch; ond gwrthwynebai Mr. Homfray, Mr. R. Isaac Jones, a'r Parch. Henry Jones (clerigwr), ar y tir nad oedd Mr. Rowlands yn drethdalwr yn y plwy. Cynygiodd Mr. R. I. Jones welliant i'r cyfarfod, sef, —

"Fod y cyfarfod yn gwrthod anfon cais am Fwrdd Addysg."

Cefnogwyd ef gan Mr. Lewis Hughes. Pleidleisiodd saith ar hugain dros y gwelliant, a saith a deugain dros y cynygiad gwreiddiol—mwyafrif o ugain. Wedi. hynny anerchwyd y cyfarfod gan y Parch. D. Rowlands.

Er i'r cyfarfod hwnnw basio gyda mwyafrif o blaid, penderfynodd Mr. R. Isaac Jones a'i bleidwyr gyhoeddi cyfarfod arall i'w gynnal ymhen ychydig amser. Yn y cyfarfod hwnnw, o dan arweiniad Mr. Jones, pasiwyd eu bod yn condemnio gwaith y cyfarfod blaenorol. "Bwgan y Dreth" oedd ei brif arf, a thriniodd ef yn ddeheuig. Yr oedd y cyfarfod yn un pur gynhyrfus.