Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/135

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Eifion, ac eraill. Penodwyd Pwyllgor Gweithredol o 80, gyda Mr. David Williams yn Gadeirydd iddo, a'r Parch. E. Andrews, Rheithor Llanfrothen, a Mr. Ellis Owen, Cefn Meusydd, yn Ysgrifenyddion Mygedol, a'r Parch. Thos. Jones, Cefn Meusydd (Eisteddfa wedyn), yn Ysgrifennydd Gweithredol. Yr oedd yr oll o'r pwyllgor i wisgo, ar ddydd yr eisteddfod, wasgod linsey cross-bar, gwyrdd a gwyn; a rhoddwyd gwobr am y patrwm goreu o un felly.

Swyddogion yr eisteddfod oeddynt:—

Arweinydd, Talhaearn.

Beirniaid.

Y Farddoniaeth: Caledfryn, Eben Fardd, a Nicander.
Llenyddiaeth: Y Barnwr A. J. Johnes; yr Archddeacon Williams; Dr. James, Kirkdale; y Parchn. D. R. Stephens; D. Jones, M.A.; William Jones, Nefyn (Myfyr Môn); John Williams, ac Owen Thomas, Drefnewydd.
Cerddorol: Dr. Wesley, y Parchn. John Edwards, M.A., a John Mills.
Chware'r Delyn: Mr. Ellis Roberts (Eos Meirion), a Mr. E. W. Thomas.
Celf: H. Jones, Ysw., Beaumaris; John Walker, Ysw., Hendregadredd; y Parch. J. W. Ellis, Glasfryn; a Mr. D. Williams.

Cynhaliwyd yr eisteddfod ar y Parc, ar y 7fed, yr 8fed, a'r 9fed o Hydref, mewn pavilion eang a gynhwysai bedair mil.

Wele'r prif destynnau, a'r buddugwyr:—Awdl: "Heddwch." Gwobr, £20, a Chadair.
Ymgeiswyr,—Gwilym Hiraethog, Ieuan Gwynedd, Ionoron Glan Dwyryd, Dewi Ddu, Gwilym ab Iorwerth. buddugwr, Hiraethog.
Awdl Goffa i Dewi Wyn: Y Parch. T. Pierce, Lerpwl.
Pryddest: "Doethineb Duw." Ymgeiswyr,
Thomas Parry, Llanerchymedd, Gutyn Padarn, a Bardd Du Mon. Y buddugwr, T. Parry.