Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/137

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mynediad i mewn i'r eisteddfod,—sedd ar y llwyfan (un cyfarfod), 2/6; seddau ar y llawr, 1/-; lle i sefyll, 6c. Cyngerddau: seddau, 6c.; lle i sefyll, 3c. Er mor fychan y prisiau am fyned iddi, caed £15 12s. o elw.

Fel y gwelir, eisteddfod y beirdd ydoedd hon, a gwnaethant ddefnydd helaeth o honi.

Caed cryn hwyl yn yr Orsedd bob dydd, ac yng nghyfarfodydd y beirdd. Bardd yr Orsedd ydoedd Meirig Idris, a gweinyddai ei swydd gydag awdurdod. Un diwrnod, daeth ato un a ystyriai ei hunan yn eginyn bardd, i ymofyn am urdd. Gofynnodd Meirig iddo a allai efe adrodd englyn neu ddarn o gynghanedd o'i waith ei hun, i'r hyn y cafodd atebiad nacaol; ac ebe Bardd yr Orsedd wrtho, gyda holl awdurdod Gorsedd Beirdd Ynys Prydain o'r tu cefn iddo, "Yr wyf fi gan hynny, ar air a chydwybod, yn cyhoeddi nas gellir bardd o honaw; felly anfonwch ef allan o'r cylch."

Ym mhlith y rhai a urddwyd yn yr eisteddfod honno yr oedd Ioan Arfon, Iolo Trefaldwyn, Dewi Glan Dwyryd, Llyfnwy, y Parch. D. Silvan Evans (Hirlas), Ioan Twrog, Owen Aran, Prysor, Moelwyn Fardd, Ellis Wyn o Wyrfai, Robin Wyn, Gwilym Mon, Dewi Ddu, Emrys, a'r Parch. T. Pierce (Tomos Clwyd).

EISTEDDFOD GADEIRIOL ERYRI.

Awst 28ain, 29ain, a'r 30ain, 1872.

Llywyddion: Arglwydd Arglwydd Penrhyn, Mr. Osborne Morgan, A.S., W. W. Wynne, Bar., A.S., a Mr. Lloyd Morgan.

Arweinwyr: Cynddelw, Tan y Marian, a Mynyddog.

Beirniaid.

Cerddorol: Owen Alaw, a Than y Marian.
Y Farddoniaeth: Cynddelw, Hiraethog, a'r Parch. Hugh Owen (Meilir).
Datganwyr gyda'r Delyn: Idris Fychan ac Eos Mai.
Telynor: John Thomas.