Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/139

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

I Gor heb fod dan 40 mewn nifer: "Y Retreat Chorus," allan o Gantata Owen Glyndwr (Eos Bradwen). Gwobr, £5 5s., a medal i'r Arweinydd. Goreu, Cor Caernarfon, o dan arweiniad William Parry.
Cor o unrhyw faint: Y dôn "Moab." Gwobr, £4 4s. Goreu, Cor Caernarfon.
Cyfansoddi Ymdeithgan Genedlaethol. Gwobr,£5 5s. D. Emlyn Evans.
Cyfansoddi ton ar y geiriau "O Dduw, rho im dy hedd." Alaw Ddu.
Cystadleuaeth y Seindyrf. Goreu, Caernarfon.


Cynhelid yr eisteddfod mewn pabell eang, a honno wedi ei "haddurno yn wych, a'i gwyntyllio yn dda." Cynhwysai tua chwe mil. Cynhaliwyd yr Orsedd ar yr ail a'r trydydd dydd, a chyfarfyddai'r beirdd a'r llenorion ar nosweithiau'r eisteddfod yn Neuadd Drefol, Tremadog. Cynhelid yr Orsedd ar ben Ynys Fadog, o dan arweiniad Owen Williams, Waen Fawr. Ar yr ysgwydd ogleddol i'r cylch cyfrin yr oedd cadair wedi ei nhaddu yn y graig, lle'r eisteddai'r hen batriarch o'r Waen ynddi.

Ymhlith y beirdd a urddwyd yn yr eisteddfod honno yr oedd Gwilym Eryri, Cynhaearn, Robin Goch o'r Gest, a Glaslyn.

Bu'r eisteddfod hon yn llwyddiant ym mhob modd. Yr oedd yr holl dderbyniadau yn £1,112 1s. 2c., a'r treuliau yn £970 10s. 2c., yr hyn a gynhwysai gost y Pavilion, sef £342 9s. 6c. Gwobrwyon, £196 13s. 6c. Gwasanaeth datganwyr, &c., £167 8s. 1c. Am argraffu ac hysbysu, £111 5s. 3c. Felly'r oedd yr elw a dderbyniwyd oddi wrthi yn £141 11s. Cyflwynwyd y swm hwn at Addysg, sef: i'r Ysgol Genedlaethol, Porthmadog, £40; i'r Ysgol Frytanaidd eto, £40; i Ysgol Frytanaidd Tremadog, £31 11s.; i Ysgol Genedlaethol Pentrefelin, £30.