Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/146

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwneuthur yr ystafell yn rhydd i'r dwylaw oll, tra y byddont yn y cyfleusderau, heb ddim tâl ychwanegol." —(Y Geiniogwerth, Rhagfyr, 1847).

Gresyn i'r fath Gymdeithas ragorol fethu dal ei thir.

Club Chwareu Porthmadog. (The Portmadoc Histrionic Club).
1870.

Cymdeithas Gerddorol Porthmadog. Arweinydd, William Owen.
1863.

Y Temlwyr Da. "Teml Madog."
1872—1889.

Prif Demlydd, Mr. John Owen.
Ysgrifennyddes, Miss A. Williams, Lombard Street
Ar у 9fed o Ebrill, 1878, cynhaliwyd Uwch Deml Cymru ym Mhorthmadog.

Cymdeithas Lenyddol y Bobl Ieuanc. (Portmadoc Literary Debating Society).
1878—1886.

Ei Swyddogion cyntaf:—Llywydd, Mr. Thomas Jones, (Cynhaearn); Trysorydd, Mr. Thomas Roberts, cyfreithiwr; Ysgrifennydd, Mr. Robert Williams, Foundry.

A'r Gymdeithas hon yr ymunodd Mr. Lloyd George ar ei ddyfodiad i Borthmadog, ac ynddi hi y dechreuodd siarad yn gyhoeddus ac y dadblygodd ei ddawn ddadleuol.

Cylchwyl Lenyddol Salem.
1856.

Gogyfer a'r Gylchwyl hon yr ysgrifennodd Owen Morris ei draethawd ar "Portmadoc and its Resources."