a'i drefi. Nid yw ond megis echdoe er pan rydiwyd y Traeth Mawr, gan droi'r draethell dywodlyd yn ddyffryn; ac nid yw ond megis doe er pan sylfaenwyd y trefi. a chyda'r gwyll neithiwr y noswyliodd eu harwyr.
Saif Porthmadog yn ystlys ddwyreiniol Eifionnydd, a'i chefn ar sawdl y Gest,
"Lle llithra'r Laslyn loew yn ddistaw tua'r Traeth."
O'i blaen, yng nghysgod y graig, y llecha Tremadog. I'r dde a'r aswy, ymleda Dyffryn Madog ei ddwy aden, a thu cefn i'r Dyffryn ymgyfyd yr Eryri, yn fryn ar fryn, clogwyn uwch glogwyn; a moelydd wrth foelydd yn ymgydio ynghyd, a mynydd ar ol mynydd yn estyn eu breichiau cyhyrog allan i'r de ac i'r dwyrain. Y Wyddfa a'r Aran, Y Cnicht, Y Moelwyn Mawr, a'r Ardudwy gan ymffurfio'n amddiffynfa gadarn a mawreddog. Tu ôl i'r dref a Moel y Gest y gorwedd Cantre'r Gwaelod yn ei wely llaith. O'i blaen, ar ochr Meirionnydd i'r Traeth, y mae ardal dawel Llanfrothen —bro mebyd yr Esgob Humphreys, cymhellydd a noddwr Elis Wyn o Lasynys ac Edward Samuel—dau o lenorion gloewaf Cymru yn y ddeunawfed ganrif, a dau o gymwynaswyr pennaf ein cenedl. Dros y morlan, ar y llethrau draw, y mae Dyffryn Ardudwy, gyda swyn y Mabinogion yn ei lygad a phrudd-der Llyn y Morwynion ar ei ruddiau. I fyny'r Traeth, ar hyd y Laslyn a thros adwy'r Gymwynas, y gorwedd Beddgelert â'i ramant hud; ac ar y dde iddo, ar y bryniau draw, y mae bro Dafydd Nanmor a Rnys Goch Eryri. Dywed traddodiad mai o Forfa Madog y mordwyodd Madog ab Owen Gwynedd, wedi brwydro'n hir, dros foroedd y gorllewin i chwilio am wlad heddychlon. Ond cysylltir enw Porthmadog ein dyddiau ni âg enw Mr. W. A. Madocks—gwr o athrylith feiddgar ac o ysbryd anturiaethus. Mr. Madocks a'i sylfaenodd, ond nid efe yw awdwr y drychfeddwl o wneuthur morglawdd, er atal y môr i anfon ei lanw ysbeilgar dros wyneb y Morfa. Perthyn yr anrhydedd hwnnw i'r boneddwr Cymroaidd Syr John Wynne o Wydir. Ond bychan oedd ei brofiad ef o anturiaethau o'r fath, ac yr oedd