Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/159

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

parhaodd ei mhab a'i mherch i ofalu'n dyner am ei thad oedrannus, hyd oni fu farw, wedi blynyddoedd o lesgedd, ar y 16eg o Ebrill, 1895, yn 86 mlwydd oed. Dodwyd ei weddillion i orwedd ym meddrod ei ferch ym mynwent Salem, Porthmadog. Bu farw Mary Williams, ei briod, ar y 21ain o Chwefrol, 1873, yn 56 mlwydd oed, a chladdwyd hi ym mynwent Ynyscynhaiarn. Yno hefyd y gorwedd gweddillion pump o'u plant—dwy ferch, a thri mab.


Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Edward Breese
ar Wicipedia

BREESE, EDWARD (1835—1881).—Cyfreithiwr, llenor, hynafiaethydd, ac awdwr: ail fab i'r Parch. John Breese, Caerfyrddin, lle y ganed ef, ar y 13eg o Ebrill, 1835. Derbyniodd ei addysg athrofaol yng Ngholeg Lewisham, Kent; astudiodd y gyfraith. Yn 1857 symudodd i Borthmadog, at ei ewythr, brawd ei fam—Mr. David Williams, Castell Deudraeth—i ddilyn ei swydd gyfreithiol, a daeth yn fuan, oherwydd ei alluoedd a'i gysylltiad â'i ewythr, i fod yn un o gymeriadau amlycaf y Dyffryn. Ar ymddiswyddiad ei ewythr o fod yn Ysgrifennydd yr Heddwch dros Sir Feirionnydd, ac fel Clerc i Arglwydd Raglaw y Sir, a Chlerc Ynadon Eifionnydd, ar y 22ain o Fedi, 1859, penodwyd ef yn olynydd iddo. Bu hefyd am gyfnod pwysig yn brif oruchwyliwr Ystâd Madocks—y cyfnod cyn dyfodiad yr etifedd—F. W. A. Roche, Ysw.,—i'w oed; a phan oedd sefyllfa'r ystâd yn ddyrus, a'r swydd yn anodd ei chyflawni. Bu a rhan hefyd gyda phob symudiad o bwys a gymerodd le ym Mhorthmadog yn ystod ei arhosiad ynddi. Eglwyswr ydoedd o ran enwad, a Rhyddfrydwr mewn gwleidyddiaeth. Gweithiodd yn egniol dros ymgeisiaeth Mr. Williams yn ei etholiadau ym Meirion; a thros Mr. Holland yn Etholiad 1870. Efe hefyd fu'n brif offeryn i ddwyn allan Syr Love Jones Parry, Barwnig, i wrthwynebu'r Anrhydeddus G. Douglas Pennant yn 1868, pan ddychwelodd Arfon Ryddfrydwr i'w chynrychioli am y waith gyntaf yn Senedd Prydain Fawr. Gallasai Mr. Breese fod wedi ei ddewis yn ymgeisydd seneddol ei hunan pe dymunasai; ac edrychai Meirion yn ffyddiog ato fel olynydd i Mr. Holland pan