Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/169

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llanwai'r swydd o warden yn Eglwys Sant Ioan, ac arolygwr yr Ysgol Sabothol. Efe hefyd ydoedd ysgrifennydd pwyllgor yr eglwys Gymreig. Bu farw'n hynod sydyn, yn nhy ei chwaer yng Nghaernarfon, tra yno ar ei wyliau. Digwyddodd hynny ar y 23ain o Orffennaf, 1893, a chladdwyd ef ym mynwent Eglwys Llanbeblig, Caernarfon.

GWILYM ERYRI[1] (William Roberts, 1844—1895).Mab i David a Catherine Roberts, a anwyd ym Mhorthmadog ar yr 22ain o Fawrth, 1844. Gwneuthurwr hwyliau ydoedd wrth ei alwedigaeth, ond bardd o anianawd. Ychydig o fanteision addysg a gafodd ym more'i oes. Bardd hunan—ddiwylliedig ydoedd. Dechreuodd gyfansoddi yn gynnar ar ei fywyd, a daeth yn gystadleuydd o nôd yn fore. Urddwyd ef yn Eisteddfod Porthmadog, 1871. Ennillodd Gadair y Gordofigion yn 1875, am "Awdl Goffadwriaethol am y Priffeirdd, o Aneurin Gwawdrydd hyd Nicander." Y mae'r awdl hon yn un o'r rhai tynheraf yn yr iaith. Y mae'i blethiad o achau'r cyn—feirdd, ei feistrolaeth ar y cynghaneddion, ei elfenniad byw, a'i fywgraffiad cryno o'r prif—feirdd, yn nodedig o gywraint a naturiol. Pa beth yn fwy byw a tharawiadol na'i englyn i Risiart Ddu o Wynedd, ac a fu farw yn yr Americ bell:—

Yn Amerig gem orwedd,—tôdd ei hâr
Risiart Ddu o Wynedd;
Ei genedl hoffai'i geinedd:
Ai dros fôr.—Pwy drwsia'i fedd?

Mor dlos yr iaith, a phrydferth y syniadau? Ymhen dwy flynedd, ennillodd y Gadair a gwobr, £21, yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1877, ar awdl "Ieuenctid," allan o un ar ddeg o awdlau gwir ragorol." Barnai Hwfa Môn, Gutyn Padarn, ac Ioan Arfon, fod eiddo "Gwyndaf Hen" yn "mawr ragori ar ei gydymgeiswyr." Yr ail yn y gystadleuaeth ydoedd Elis

  1. Yr oedd dau gyd-oeswr yn arddel yr un enw barddol; sef gwrthrych y nodiadau uchod, a'r diweddar Mr. W. E. Powell, Milwaukee, Wisconsin,—brodor o Feddgelert.