Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pe llwyddasai Syr John yn ei ymgais i gael help a chynhorthwy Syr Hugh i gario'r gwaith allan nid oes a ŵyr beth fuasai hanes Dyffryn Madog heddyw. Buasai cysylltiad gŵr o safle Syr Hugh Middleton â'r gwaith yn sicr o dynnu sylw cyfoethogion tuagat y lle, a thrwy hynny beri cynnydd a dadblygiad yng nghyfoeth mwngloddiau'r broydd. Ond nid felly y bu yr oedd y galwadau oedd arno gyda'i wahanol orchwylion yn gwneud hynny'n anmhosibl; ac yntau yn rhagweled yr anhawsderau lu oedd yn wynebu'r fath anturiaethgwaith a ofynai am "ddyn a llaw hollol rydd, a chôd fawr." Yr oedd efe wedi dysgu trwy ei brofiad helaeth gyda Gwaith Dwfr Llunden mor siomedig a thwyllodrus oedd anturiaethau o'r fath. Yr oedd efe pan ymgymerodd â hwnnw yn ddyn cyfoethog, â'i lôg blynyddol oddiwrth fwnau yng Nghymru'n unig yn ddwy fil o bunnau, a chymerodd iddo bedair blynedd a hanner i gwblhau'r gwaith, a chostiodd iddo ef yn bersonol y swm o £160,000, tra'r oedd yr holl draul yn bum can mil. Ond pan y'i gorffennodd, leied o werth a welai'r Llundeinwyr ynddo, fel mai prin y cyrhaeddai'r llog blynyddol oddiwrth gyfranddaliadau canpunt, ddeuddeg swllt! Am hynny anfonodd yr atebiad canlynol at ei gefnder o Wydir,

Anrhydeddus Syr,
Derbyniais eich caredig lythyr, ychydig yw'r pethau a wnaethpwyd gennyf fi, ac i Dduw y rhoddaf y gogoniant am danynt. Dichon y bydd yn dda gennych ddeall mai ymhlith fy mhobl fy hun y bu fy ymgais gyntaf gyda gwaith cyhoeddus, o fewn llai na milldir i'r lle y'm ganed, bedair neu bum mlynedd ar hugain yn ol, sef ymchwil am lo i dref Dinbych.

O berthynas i'r tiroedd a orchuddiwyd â dwfr yn ymyl eich eiddo, y mae llawer o bethau i'w hystyried ynglyn â hyn. Os am eu hennill, prin y gellir gwneud hyn heb feini mawrion, ac yr oedd digon o honynt yn yr Ynys Wyth, yn gystal a choed; a symiau mawrion o arian i'w gwario,—nid cannoedd ond miloedd; ac yn gyntaf oll rhaid cael cefnogaeth ei Fawrhydi. Am danaf fy hun, yr wyf yn tynu ymlaen mewn dyddiau, ac yn llawn prysurdeb yma, yn y mwngloddiau, gyda'r afon yn Llunden, ac hefyd mewn mannau eraill; y mae fy nghyfrifoldeb wythnosol dros ddeucant, yr hyn a'm gwna yn bur anfoddlon i ymgymeryd ag unrhyw waith arall; ac y mae'r lleiaf o'r rhain, pa un bynnag ai'r tiroedd gorchuddiedig, ai'r mwngloddiau, yn