Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/186

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

The whole to conclude with THE PRIZE.

Dr. Lenitive — Mr. Rosswood.
Mr. Dawkins — Mr. Sheath
Mr. Caddy —Mr. W. A. Madocks.
Captain Hartwell — Mrs. Caddy
Label—Master Fenton
Juba —Mr. Jos. Madocks
The Old Bronze — Mr. John Madocks
Young Bronze — Mrs. Wellman



Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Mary Davies (Mair Eifion)
ar Wicipedia

MAIR EIFION (Mary Davies, 1846—1882).—Llenores, a barddones. Merch ydoedd i Lewis a Jennet Davies, Tregynter Arms, Porthmadog. Yno y ganwyd hi, ar y 17eg o Hydref, 1846. Capten llong oedd ei thad, a bu'n llwyddiannus gyda'i longau. Gwenai ffawd arno ym more ei oes; ond pan oedd efe'n mlodau'i ddyddiau dechreuodd ei nerth ballu, a chiliodd ei iechyd. Bu farw Awst y 6ed, 1853, yn ebrwydd wedi iddo ddychwelyd adref o un o'i fordeithiau, gan adael ar ei ol weddw ieuanc, gyda phump o blant amddifaid. Wedi marwolaeth y tad ymadawodd y fam â'i thylwyth o'r Tregynter Arms, i fyw ar ddarbodaeth ei phriod mewn neillduaeth; ond byr a fu mwyniant di-bryder y cartre newydd. Ymhen y flwyddyn wedi marw ei phriod, collodd Mrs. Davies ei llong newydd, y Jane a Mary-y llong a wnaeth ei mhordaith gyntaf yn fordaith olaf i'w pherchennog. Colled fawr oedd honno i wraig ieuanc weddw, oedd yn dechreu magu pump o blant, heb dad yn gefn ac yn nodded iddynt. Er hyn ni welodd brinder, ac ni adawodd ei phlant yn ddigynysgaeth ar ei mharwolaeth. Derbyniodd Mair yr addysg oreu oedd o fewn ei chyrraedd. Anfonwyd hi i Ysgol Uwch-raddol Miss Rees—merch Gwilym Hiraethog—ac yno y bu nes y cyrhaeddodd ei 16eg oed. Y tebyg yw mai o du ei thad yr etifeddodd y ddawn farddonol. Yr oedd ei thad yn berthynas i Dafydd Sion James, Penrhyndeudraeth, yr hwn oedd yn brydydd a cherddor o gryn deilyngdod. Danghosodd Mair Eifion duedd at farddoni yn ieuanc, a chafodd noddwr a chyfarwyddwr ffyddlon yn Emrys. Ymddanghosodd amryw o'i chynyrchion bore yn y Dysg-