Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/188

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MATHEWS, EDWARD WINDUS (Major, 1812—1889).—Mab i Nathaniel Mathews, y Wern. Yr oedd yn wr hynod am ei garedigrwydd a'i gymwynasgarwch; a bu ei ddylanwad yn help i lawer i ddringo i safleoedd o bwys. Yr oedd yn un o berchenogion Chwarel Rhiwbryfdir. Yr oedd yn foneddwr trwyadl, a bu'n ffyddlon i'w safle a'i gydwybod yn yr holl gylchoedd y troai ynddynt. Bu'n Gadeirydd Pwyllgor yr Ysgol Genedlaethol am lawer o flynyddoedd, a chyfrannodd yn helaeth tuag at ei chynnal, gan ei chadw o ddyled lawer pryd. Efe sefydlodd Gorfflu y Gwirfoddolwyr ym Mhorthmadog, yn y flwyddyn 1850, ac efe oedd Capten cyntaf y cwmni. Yr oedd yn Eglwyswr ffyddlon a chywir. Bu'n Ynad Heddwch, ac yn Is-Raglaw Sir Gaernarfon. Symudodd o Ddyffryn Madog i'r Wern, Guilford, Swydd Sussex, lle y bu farw, ar y 26ain o Hydref, 1889, yn 77 mlwydd oed. Claddwyd ef yng nghladdfa'r teulu ym mynwent Eglwys St. Mair, Peckenham, Swydd Suffolk.

MATHEWS, NATHANIEL (1787—1867).—Mab ieuengaf i wr o'r un enw, oedd yn byw yn New House, Peckenham. Symudodd i Gymru yn y flwyddyn 1835, gan ymgartrefu yn y Wern, Penmorfa. Yr oedd yn un o gyfranddalwyr Chwarel Rhiwbryfdir, Ffestiniog. Bu'n briod â Miss Mary Windus, unig ferch Edward Windus, Ysw., o Tottenham, Swydd Middle

Cymerai ddyddordeb mawr ym mywyd Ffestiniog a Dyffryn Madog; a bu'n llanw'r swydd o Ynad Heddwch dros Sir Gaernarfon am lawer o flynyddoedd. Ystyrid ef a Mr. J. W. Greaves fel yr ynadon mwyaf cywir ac uniawn a fu'n eistedd erioed ar unrhyw fainc. ynadol. Bu farw ar y 3ydd o Fawrth, 1867, yn 80ain mlwydd oed. Bu ei briod farw ar y 13eg o Ragfyr, 1852, yn 62 mlwydd oed. Claddwyd y ddau yng nghladdfa'r teulu ym mynwent St. Mair, Peckenham.


MORRIS, DANIEL (1789—1840).—Meistr cyntaf yr Harbwr. Brodor o Lanystymdwy. Bu'n gwasanaethu gyda Mr. Bidwell, Tan 'Rallt a Farm Yard, Tremadog.