Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Farchnad yno ar yr 8fed o Dachwedd, 1805, ac erbyn diwedd y flwyddyn 1809 yr oedd yno gynifer a 68 o dai, ynghyda Marchnadfa, Melin, Fatri, a Phandy, a'r preswylwyr yn 303. Yn 1806 efe a adeiladodd yr Eglwys, —neu'n fanylach, gapel anwes, i arbed i'r Eglwyswyr gerdded i Eglwys y plwyf—Ynys Cynhaiarn. Cymaint oedd llwyddiant Mr. Madocks gyda Thremadog, a chryfed oedd yr ysbryd anturiaethus ynddo, fel y penderfynodd ennill y gweddill o'r Dyffryn, oedd eto heb ei feddiannu oddiar y dyfroedd rheibus, trwy wneud morglawdd gadarnach o gerrig, ar draws y Traeth, o Ynys Dowyn i Drwyn y Penrhyn. I gyflawni'r gwaith hwn, yr oedd yn rhaid iddo—fel yr hysbysodd Hugh Middleton, J. Wynne—wrth Ddeddf Seneddol; ac yn y flwyddyn 1807, cyflwynodd T. Parry Jones-Parry, Ysw., A.S., fesur i'r perwyl hwnnw o flaen y Senedd. Wele grynhodeb o'r Ddeddf,

Geo. 3. Session 2. Chapter 36.

Vested sands of Traethmawr in Counties of Carnarvon & Meirioneth in W. A. Madock from 1 Aug. 1807.

Sands extended from Pont Aberglaslyn to Point of Gest it also provided "that so much of the tract of sands from the point of Gest to Pont Aberglaslyn as shall be protected from the influx of the sea by the said W. A. Madock his heirs & assign's shall be granted to him in fel simple,[1] this grant did not include Marsh lands adjoining the Sands & which had hitherto been occupied or enjoyed as pasturage.

Benjamin Wyatt of Lime Grove Bangor was appointed Commissioner to determine boundries.

Two roads were to be made

(1) From Llidiart Ysbytty to Ynys Hir
(2) Prenteg to Ynysfawr = both public roads to be repaired by W. A. Madock

The Embankment to be begin within 10 yrs & finished within 20 yrs.

ActGeo. 3. Sess. 2. Cap. 71.8 Aug. 1807 for Improvement of Ynys Congor on the Coast of Eifionnydd by
(1) Building pier or rampart to protect it from S. W. wind & by building a quay.

  1. Freehold.