Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/195

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hono—a meddwodd! Daeth yn ddirwestwr selog, hynny yw, y capten—am yr hwch, ni chofnodir i honno byth sobri. Yn y flwyddyn 1836 agorodd y National and Provincial Bank, Pwllheli, gangen ym Mhorthmadog. Dewiswyd ty y capten i'w gynnal, ac yntau'n oruchwyliwr arno. Yr oedd yn Fethodist aiddgar, ac yn un o sylfaenwyr ei enwad ym Mhorthmadog. Yr oedd o dymer fywiog, ac o duedd garedig. Wedi bod "ar y lan" am 20 mlynedd, daeth awydd morio arno eilwaith; ac yn ei hen ddyddiau cyfeiriodd ei wyneb i hwylio tros y llydan—fôr. Pan yn un o borthladdoedd Califfornia, yn y flwyddyn 1855, tarawyd ef âg afiechyd blin, a fu'n angau iddo, ar ol cystudd byr, a gollyngwyd ei gorff i'w ddyfrllyd fedd yn ei ddeuddegfed mlwydd a thri ugain.

PRICHARD, J. R. (1866—1910).—Mab i R. J. Prichard, Porthmadog, yn ddilynol Fourcrosses, Pwllheli, a disgynydd o hen deuluoedd Cymroaidd Hafod Lwyfog. Derbyniodd ei addysg mewn ysgolion preifat. Yna aeth i Fanc y Mri. Pugh Jones a'i Gyf., yn Llandudno, a phan tuag ugain oed symudodd i Borthmadog. Ar ymddiswyddiad Mr. J. P. Williams, dyrchafwyd ef yn rheolwr, a chadwodd y swydd honno wedi i'r banc gael ei drosglwyddo i'r National Bank of Wales; ac yn ddiweddarach, pan drosglwyddwyd hwnnw drachefn i'r Metropolitan Bank. Ymbriododd â Miss Laura Williams, merch y diweddar Mr. Daniel Williams, Ivy House, ac y mae iddynt un mab. Cymerai ddyddordeb neillduol yng ngwahanol symudiadau cyhoeddus y dref, a gwnaeth lawer i hyrwyddo ei buddiannau ac i roddi ysbrydiaeth yn ei bywyd. Gweithiodd yn egniol i sefydlu yr Arddanghosfa flynyddol, a chydag adran Porthmadog o'r Gwirfoddolwyr. Un o'i ymdrechion diweddaf ydoedd sefydlu Cymdeithas y Gwelliantau, gyda'r amcan o godi'r dref a'r cwmpasoedd i fwy o sylw dieithriaid. Yr oedd yn un o gyfarwyddwyr Cwmni y Wasg Genedlaethol Gymreig, a Chwmni'r Cyhoeddwyr Cymreig, Caernarfon. Bu'n Ynad Heddwch am bymtheng mlynedd. Teithiodd