Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tymestl fawr, a chymaint ydoedd ymchwydd y tonnau, fel y cwympodd y Morglawdd, gan roddi ffordd iddynt. Wrth gefnu ar y lle, gwyddai Mr. Madocks ei fod yn gadael ei eiddo yng ngofal gwr abl i'w wylio drosto, sef Mr. John Williams. Dyn rhagorol ydoedd efe, un ydoedd, fel y dywed Mr. Owen Morris am dano,—"ag enaid mawr ganddo—enaid a ddyrchafai uwchlaw anhawsderau, ac enaid na welai mewn rhwystrau ond gwrthrychau i'w goresgyn." Yn hytrach na rhoddi ei ysbryd i lawr mewn anobaith, gan ddisgwyl am ddychweliad ei feistr—fel y gwnelsai rhai llai gwrol nag ef ymwrolodd ac ymgryfhaodd; galwodd ei gyfeillion ynghyd, ac ymgynghorodd â hwy. Anfonwyd cylchlythyr i bawb a allai estyn cymhorth, a chymaint oedd tosturi a chydymdeimlad y wlad âg ef, a chryfed yr awydd i'w helpu, fel,

"O gariad bonedd a gwerin—mudwyd
I'r Madog yn ddiflin;
Bu cariad, Mawrhad a'u rhin,
Brinach i lawer brenhin,"


fel y dywed Dewi Wyn, oedd yn un o honynt. A chan fod gan y bobl galon i weithio, daeth llwyddiant i'r golwg yn fuan. Ond nid help dynion, meirch, ac offer yn unig oedd eisiau. Cymaint oedd y difrod a wnaed, fel ag yr oedd yn rhaid wrth lawer o arian tuag at brynu defnyddiau newyddion. Trwy offerynoliaeth y bardd Seisnig Shelley, a oedd yn aros ar y pryd yn Nhan yr Allt, llwyddodd i sicrhau y gefnogaeth honno hefyd. Aeth Shelley ei hunan o amgylch, i gymell ac argyhoeddi'r bobl, a chyfrannodd hanner canpunt at yr amcan. Ym mis Mawrth, cynhaliwyd cyfarfod yn Baron Hill, Beaumaris, o dan lywyddiaeth Arglwydd Bulkeley, i'r un diben, ac agorwyd cronfa i gyfarfod â'r golled, a derbyniwyd yn rhwydd symiau yn amrywio o bumpunt i ganpunt.[1] Gyda'r fath garedigrwydd a brwdfrydedd, llwyddwyd eilwaith i gyfannu'r rhwyg erbyn tua diwedd y flwyddyn 1814, ac ni syfl-

  1. Gwel y Gestiana, tud. 174.