Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/213

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

EIFION WYN.—Prif delynegydd Cymru heddyw, a anwyd ym Mhorthmadog. Gwr o Roslan oedd ei dad, ac ar lannau'r Ddwyfor y magwyd ei fam. Bu i'w rieni bedwar o blant; ond bu dau o'r pedwar farw yn eu mabandod. O'r teulu, nid oes yn aros heddyw ond y bardd a'i fam unig.

Am dymor bu yn athro yn Ysgol Elfennol y dref, gyda Mr. Grindley. Yna dechreuodd bregethu gyda'i enwad yn Salem—a hynny'n bennaf, o gymorth i'w gyfaill, Mr. Robert Owen, gwr ieuanc a garai fel ei enaid ei hun. Yr oedd ei bregethu, fel ei ganu, yn llawn o'r "peth byw." Cafodd amryw alwadau; ond gwrthododd hwynt oll gyda gwylder a pharchedig ofn.

Yn 1907 ymbriododd â Miss Annie Jones, o'r Efail Bach, Abererch; a ganwyd eu mab bychan, Peredur Wyn, yn 1908.

Unwaith yn unig yr ymgeisiodd Eifion Wyn am Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol, sef yn Lerpwl yn 1900, ar awdl "Y Bugail," a'i awdl ef a ddyfarnwyd yn oreu gan Dafolog, er mai Pedrog a gadeiriwyd. Ceir ei enw'n aml yng nghyfrolau yr Eisteddfod Genedlaethol; ac yn Eisteddfod Caernarfon, yn 1906, cipiodd chwe gwobr yn adran y farddoniaeth. Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf yn 1894, o dan yr enw "Ieuenctid y Dydd." Dilynwyd hwnnw gan "Awdl y Bugail" yn 1906. Telynegion Maes a Môr" yn 1906; a "Thlws y Plant"—llyfr bychan o emynau i blant—tua'r un amser. Ond fel awdwr "Telynegion Maes a Môr" yr edwyn ei genedl ef oreu. Wrth adolygu'r llyfr hwnnw yn y Cymru, am Awst, 1906, dywed Mr. O. M. Edwards:

Cynghoraf bob bardd ieuanc i ddysgu holl lyfr newydd Eifion Wyn ar dafod leferydd. Oes beirdd telyn yw ein hoes ni; ond ymysg y melusaf o honynt cân Eifion Wyn yw'r berffeithiaf. Dywedodd Tafolog cyn marw mai Eifion Wyn yw bardd goreu Cymru: yr wyf finnau'n sicr mai efe yw ein bardd telyn goreu. Tybiaf fod yr adran a elwir yn Telynegion Men' yn y gyfrol yn berffaith o ran iaith, dychymyg, chwaeth a theimlad. Ni chanwyd erioed ddim mwy cain. Yr wyf wedi erfyn arno ddal i ganu, ac yr wyf yn cael yr anrhydedd o gyhoeddi ei gyfrol. Bydd bendith pob un a ddarllen'r gyfrol arnaf."