ddifrifol a fu hi i wella'i chyflwr, a puro'i hamgylchedd a glanhau'i heolydd. Araf y symudai'r Bwrdd Lleol, ac annibendod a nodweddai ei weithrediadau. Ni bu ganddi le i neb cyhoeddus o'i mhewn, hyd yn ddiweddar; ac ni roddai gyfle i'w mheibion a'i mherched talentog i ddadblygu eu galluoedd. Ni fedd yn awr well anrhydedd i'w hestyn i'w phlant, na bod yn aelod o'i Chyngor Dinesig, neu'n gynrychiolydd iddi ar y Cyngor Sir. Bu cyfnod yn ei hanes pan yr ymwelid â hi gan wyr enwoca'r genedl, gan bregethwyr ac areithwyr mwyaf hyawdl ein gwlad. Ymwelai'r Cynhadleddau â hi; cynhelid Eisteddfodau ynddi; ond nis gellir dweyd hynny am dani mwyach. Y mae ynni'r tadau wedi llesghau, a'u hysbrydiaeth wedi ymado, a chwaeth y plant wedi ei ddarostwng yn fawr, ac ni wneir ond ychydig ymdrech i'w ddyrchafu. Boddlonnir ar i bethau fyned yn eu pwysau, heb bryderu llawer, os na bydd y goriwaered yn amlwg i bawb, a'r dibyn gerllaw.
Ar y 12fed o Ragfyr, 1899, mabwysiadodd y Cyngor Dinesig Ddeddf y Llyfrgelloedd Cyhoeddus, 1892 a 1893, a bwriedid ei rhoddi mewn grym ar y cyntaf o Ebrill, 1900. Ei phrif hyrwyddwyr oedd Mr. Jonathan Davies, a Dr. Samuel Griffith. Ond yn y cyfamser daeth etholiad. Gwrthododd y trethdalwyr y Llyfrgell, a thaflodd ei charedigion pennaf heibio; ac erys y dref hyd heddyw heb well man cyfarfod i'w hieuenctid na'r clwb a'r dafarn. Bu i'r dref unwaith Gymdeithas Ddadleuol anenwadol, ar raddfa eang, a bu honno o les a bendith i lawer; ac y mae ynddi'n awr y Gymdeithas ragorol y "Vagabond"; ond cyfyng yw cylch y gymdeithas hon, a detholedig yw ei haelodau. Nid oes yn y dref yr un gymdeithas lenyddol anenwadol â'i drysau'n agored i'r neb a fynno ymuno â hi. Gwan ac eiddil yw cymdeithasau llenyddol yr enwadau. Yn sicr y mae chwaeth feddyliol y tô sy'n codi ymhell o fod yn deilwng o dref a'i phoblogaeth dros dair mil; ac yn meddu ar lawer o nodweddion gwir Gymreig.
Siomedig iawn hefyd yw gwaith Cyngor yr Eglwysi Rhyddion. Disgwylid ar ei ffurfiad y buasai o ddylan-