Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

The Votty and Bowydd, Ltd. / 1
The Maenofferen Slate Quarry, Ltd. / 1
The Manod Quarry, Ltd. /1

The Croesor Slate Quarry, Ltd
/ 1
The Rhosydd Slate Quarry, Ltd

Ond y mae un peth eto'n peri rhwystr i'r fasnach, a phryder i'r perchenogion, sef, gwely'r Laslyn o'r porthladd i'r môr. Rhai blynyddau'n ol, ymunai afon Maentwrog â'r Laslyn rhwng y Cei Newydd a Chei Balast, nes peri fod llif y ddwy yn cadw'r gwely'n union a dwfn a diberygl; ond er's rhai blynyddau bellach y mae afon Maentwrog wedi newid ei chwrs, ac yn ymarllwys yn nes i'r môr, gan effeithio'n niweidiol ar wely'r Laslyn, am na fedd hi'n awr ar ddigon o nerth i gadw'i chwrs yn glir. Er fod modd dyfod a'r Ddwyryd i'w chwrs gyntefig ni wneir dim i hyrwyddo hynny, ac oni bydd i'r Harbour Trust anturio'n fuan i'r draul angenrheidiol, fe ddiflanna gobaith eu helw hwy, ac ni bydd Porthmadog mwyach yn borthladd Eryri.

I roddi syniad am gynnydd poblogaeth a llwyddiant masnachol Porthmadog yn ystod y triugain mlynedd diweddaf, ni allaf wneud yn well na rhoddi'r ystadegau canlynol o boblogaeth Plwyf Ynys Cynhaiarn:—

Blwyddyn. Poblogaeth
1851 • • • 2347 cynydd
1861 • • • 3059 cynydd 712
1871 • • • 4260 cynydd 1201
1881 • • • 5506 cynydd 1246
1891 • • • 5097 lleihad 409
1901 • • • 4883 lleihad 214
1911 • • • 4445 lleihad 438


Poblogaeth y gwahanol rannau o'r Plwyf, ar wahan, yn ol cyfrifiad 1911, ydyw: Porthmadog, 3,177; Borth y Gest a Morfa Bychan, 708; Tremadog, 560.

Gwelir cynnydd o dros saith cant yn ystod y deng mlynedd cyntaf, sef, o 1851 hyd 1861; ond y mae cynnydd yr ugain mlynedd nesaf yn enfawr. Mwy na dyblodd y boblogaeth yn ystod deng mlynedd ar