blynyddoedd diweddaf yn hanner yr hyn a fuont yn amser llwyddiant; ond credir heddyw y clywir murmur ei donnau yn dynesu tuag atom unwaith eto.
Wele'n dilyn dabl arall, i ddangos cynnyrch y gwahanol chwarelau yn eu hamser goreu. Cyfrif ydyw yn dangos y swm o lechi a allforiwyd o Borthmadog gan y gwahanol chwarelau yn ystod y tri mis diweddaf o'r flwyddyn 1874:—
Dyna ychydig o hanes masnach Porthmadog yn ei bri a'i llwyddiant, ac hefyd yn ei gwendid. Fel pob hanes, y mae'n gymysg o'r llon a'r prudd. Ond y mae pob lle i gredu heddyw, fod y nos wedi rhedeg ymhell, a bod dyddiau gwell ar wawrio ar y dref a'r cymdogaethau.
Fel yr agorai chwarelau'n y cymdogaethau cyfagos, ac y cynhyddai pwysigrwydd y porthladd a'r dref ieuanc. nid yn unig yr oedd y tai annedd a'r masnachdai'n amlhau, a rhif y boblogaeth yn cynnyddu, ond gwelwyd fod y dref yn fan cyfleus i ddiwydiannau eraill, megis gweithfeydd haearn a chalch, a melinau blawd_a choed. Codwyd y Foundry gyntaf ym Mhorthmadog gan Gwmni y Rheilffordd Gul Ffestiniog, ym Moston Lodge, pan ydoedd y rheilffordd honno'n cael ei gwneud. Tua'r flwyddyn 1848 codwyd y Britannia Foundry, yn bennaf, gan y Capten Richard Pritchard. Gwerthwyd hon yn 1851 i Mr. John Henry Williams, tad y per-