Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn awr. Yn flaenorol i hynny, yn Nhremadog yr oedd unig Lythyrdy'r cwmwd. Yr oedd Mr. Madocks wedi llwyddo i gael y llythyrau yno er ddechreu'r ganrif, trwy anfon llythyr-gludydd at Bont Aberglaslyn ddwywaith yn yr wythnos, i gyfarfod Mail Caernarfon a Maentwrog. Yr oedd y gost o anfon llythyr y pryd hynny o 4c. y 15 milldir hyd at swllt y tri chan' milldir, a phob llythyr i gynnwys dim ond un ddalen, neu byddai'n agored i dâl dwbl, ag eithrio llythyrau'r aelodau seneddol, y rhai a gludid yn ddi-dâl. Yn 1850 symudwyd y Llythyrdy i swyddfa argraffu Mr. Evan Jones, lle saif y Brynawen Vaults yn awr. Yn 1857 symudodd Mr. Evan Jones i'r tŷ agosaf i Ynys-Tywyn o'r tri sydd gerllaw i'r Clwb Ceidwadol. Yn 1906 symudwyd i'r adeilad lle y mae ynddo'n awr, a sefydlwyd ynddo'r Public Telephone Call Office.

Yn 1846 adeiladwyd marchnadfa fechan ym Mhorthmadog. Ychydig flynyddoedd cyn hyn cynhelid marchnad helaeth yn Nhremadog,—yn enwedig mewn blawd. A pharhaodd yn ei bri hyd nes y daeth Porthmadog yn gyrchfan ffermwyr a masnachwyr y cylch. Yn 1875 adeiladwyd y Farchnadfa bresennol sy'n Mhorthmadog. Rhoddwyd prydles am 80ain mlynedd gan R. Vaughan Williams ac eraill, i'r Portmadoc Hall Co. Dyddiad y brydles yw Tachwedd 12fed, 1875. Telid pum punt o ground rent yn flynyddol. Yr oedd holl draul y neuadd oddeutu tair mil a hanner o bunnau. Yn 1895 cymerwyd hi drosodd gan y Cyngor Dinesig, a thalasant £1,700 i fortgagees y Cwmni. Dyddiad y weithred yw y 25ain o Dachwedd.

Hyd yn ddiweddar, nid oedd mynwent gyhoeddus yn y gymdogaeth. Ond yn y flwyddyn 1879 prynwyd tir gan y Bwrdd Lleol i wneud mynwent rydd yn ymyl Penamser. Gosodwyd y gwaith o wneud y fynwent i Mr. Beardsell, a'r adeiladau sydd ynddi i Mr. William Pritchard. Cymerodd y gladdedigaeth gyntaf le ynddi ar yr 21ain o Dachwedd, 1879, sef Mr. John Francis, Sportsman Hotel, Porthmadog, un a fu ar un adeg yn Brif-oruchwyliwr Chwarel y Penrhyn. Cysegrwyd rhan o'r fynwent, gan Arglwydd Esgob Bangor, ar y