Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

galwasant ym Mhorthmadog, a rhoddwyd iddynt groeso caredig, a chymaint oedd boddhad yr eglwys yn y "cyfaill" fel y gofynasant am Saboth iddo. Pan ddaeth dyddiad y cyhoeddiad hwnnw cyfeiriodd Mr. Ambrose ei wyneb tua'r lle. Cerddodd yr holl ffordd o Fangor i Borthmadog. Aeth y Saboth heibio'n hapus, ac ni fynai'r eglwys iddo ymadael oddiwrthynt, ond yn hytrach aros gyda hwy yn fugail arnynt. Cydsyniodd yntau i aros am flwyddyn o brawf os y dymunent, —peth go anghyffredin,—ond cymaint oedd ei ymdeimlad o'i anghymwysder i ymgymeryd â'r swydd fel nad allai wneud yn wahanol. Nid oedd wedi cael y manteision arferol a ystyriai y dylasai gweinidog ieuanc eu cael. Ni chawsai unrhyw gwrs athrofaol, ac nid oedd sefyllfa'r eglwys ychwaith yn un ad-dyniad iddo. Yr oedd y ddisgyblaeth a weinyddasai Mr. Morris, y dirywiad, a'r encil, wedi lleihau ei nhifer yn fawr, gan adael ei chymunwyr yn ddim ond 19eg. Ond nid am "flwyddyn brawf " y bu efe, ond am weddill ei oes—36 o flynyddoedd, a rheiny wedi eu llenwi hyd yr ymylon, ac yn amlwg o dan fendith y Goruchaf. Cynhaliwyd cyfarfod i'w ordeinio, ar y 7fed o Ragfyr, 1837. Dechreuwyd y gwasanaeth gan y Parch. Joseph Morris. Pregethwyd ar "Natur Eglwys" gan y y Parch. E. Davies, Trawsfynydd. Holwyd y gweinidog gan y Parch. D. Griffith, Bethel. Gweddiodd y Parch. T. Pierce, Lerpwl. Rhoddwyd y Cyngor i'r gweinidog gan y Parch. William Hughes, Saron. Pregethwyd ar ddyledswydd yr eglwys gan y Parch. William Williams, Caernarfon. Cynhyddodd yr eglwys yn gyflym o dan weinidogaeth Emrys, a bu raid ychwanegu oriel at yr addoldy'n fuan. Ond er gwneud hynny, yr oedd erbyn y flwyddyn 1840 wedi myned yn rhy fychan drachefn, a bu cryn siarad ymhlith y brodyr ar ba beth i'w wneud. Daliai rhai'n selog, y dylid talu'r £150 dyled oedd arno. Ond credai'r gweinidog, ac ychydig eraill, fod gweled rhai yn "ymofyn lle" yn Seion, ac heb le i'w roddi iddynt, yn llawer gwaeth hyd yn oed na'r ddyled. Tra yn y cyfwng hwn derbyniodd Mr. Ambrose alwad oddiwrth eglwysi Talybont a Salem, Sir Aberteifi, a