Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddododd ei bregeth ymadawol ar yr 21ain o Fawrth, 1886, gan ddychwelyd yn ol i'w hen faes, sef Y Pentre, Rhondda.

Yn y flwyddyn 1887, daeth y Parch. D. Glanant Davies, i gymeryd gofal yr eglwys. Yr oedd safle'r eglwys ar y pryd fel y canlyn:

Rhif yr aelodau, 284; rhif y rhai ar brawf, 45; rhif y plant yn perthyn i'r eglwys, 136; y gwrandawyr, 200; yr holl nifer, 665. Rhif yr Ysgol Sabothol, 430. Swm y ddyled ar ddiwedd y flwyddyn ydoedd £582. Talwyd o'r ddyled yn ystod y flwyddyn £43.

Byr a fu arhosiad y Parch. Glanant Davies yn Salem. Ymadawodd yn 1891. Cyfodwyd tri i bregethu yn ei amser ef, sef John Williams Davies (ŵyr i Beuno), Robert Owen, ac Eifion Wyn—y tri o'r Garth.

Yn ebrwydd rhoddodd yr eglwys alwad i'r Parch. W. J. Nicholson, Abertawe y pryd hynny, a dechreuodd ar ei faes newydd yng Ngorffennaf, 1892. Gwasanaethwyd yng nghyfarfod ei sefydlu gan y Parchn. Herber Evans, a William James, Abertawe. Y symudiad pwysig cyntaf a gymerodd le wedi dyfodiad Mr. Nicholson ydoedd adgyweirio'r capel. Yn flaenorol i hynny, nid oedd yr un sedd fawr ynddo, dim ond dwy sedd fach, un o bobtu'r pwlpud. Yn 1899 rhoddwyd y pwlpud newydd, gan deulu y diweddar Mr. Robert Owen, Belle Vue, yn goffadwriaeth am dano. Yr oedd Miss Morris, Bank Place, eisoes wedi anrhegu'r eglwys âg organ, gwerth tri chant o bunnau, er cof am ei brawd, Mr. Owen Morris; ond erbyn yr adgyweiriad hwn yr oedd hithau hefyd wedi marw, a rhoddodd Mr. David Morris rodd o gan punt tuag at sedd fawr er cof am dani. Rhoddwyd drysau newyddion hefyd yn rhodd gan Mr. William Evans, Lombard Street. Yr oedd yr holl draul yr aed iddo yn £579 12s. 7c.; ond cyn diwedd y flwyddyn nid oedd yn aros ond £29 9s. 11c.

Y pregethwyr ar ddiwedd y ganrif oeddynt, —Robert Owen, Eifion Wyn, ac R. G. Nicholson; y diaconiaid, William Evans, Griffith Griffiths, Morris Jones, Samuel Jones, Thomas Jones, Robert