Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hardd, ynghyd ag anrhegion i Mrs. Jones a'r ddwy ferch, yn arwydd o'u parch i'r teulu a'u hedmygedd o'u gweinidog. Talwyd yn ystod gweinidogaeth Mr. Jones tua phum cant o'r ddyled.

Wedi ymadawiad y Parch. H. Ivor Jones bu'r eglwys am ysbaid tair blynedd heb fugail arni. Yn 1902 rhoddodd alwad i'r Parch. D. J. Williams, Tredegar—brodor o Fethesda, Arfon. Dechreuodd ef ar ei waith ar y 29ain o Fehefin. Yn y flwyddyn 1905 dewiswyd yn ddiaconiaid Mri. Hugh Hughes, Elias Pierce, John Pritchard, a Richard Owen—tri newydd, ac un a ymneillduasai yn flaenorol. Yn ystod arhosiad Mr. Williams collwyd tri o wyr a fuont yn gefn da i'r achos: y Capten D. Richards, Mr. Lewis Jones Lewis, a Mr. Owen Evans, Bontfaen.

Ym mis Hydref, 1909, ymadawodd y Parch. D. J. Williams i'r Unol Dalaethau.

Y mae ystadegau'r eglwys am 1912 fel y canlyn:Gwerth yr holl eiddo perthynnol i'r achos, £6,151. Swm y ddyled ar derfyn 1912, £598 15s. Rhif yr aelodau, 200; y plant, 93; nifer y gwrandawyr, 15. Rhif yr Ysgol Sabothol, 178.

Yn 1912, bu farw Mr. David Griffith, ar ol llanw'r swydd o ysgrifennydd yr eglwys am 33 o flynyddoedd.

Y Diaconiaid.—Mri. John Williams, John Griffith, Richard Owen, John Pritchard, Elias Pierce, a Hugh Hughes.

Trysorydd yr Eglwys.—Mr. John Griffith. Ysgrifennydd.—Mr. Hugh Hughes.

Cynhaliwyd Undeb yr Annibynwyr Cymreig ddwywaith ym Mhorthmadog, sef yn 1877 a 1900.