Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tir i adeiladu capel a thŷ arno, y rhai a adeiladwyd yn y flwyddyn 1853.

Yn y flwyddyn 1855 ordeiniwyd y Parch. William Roberts, Penrhyndeudraeth, yn weinidog ar yr eglwys. Y bedydd cyntaf a gymerodd le ym Merea ydoedd yn 1857, pryd y bedyddiwyd gan y gweinidog unarddeg o feibion a merched. Rhifai'r eglwys 50 o aelodau, o ba rai nid oes heddyw ond un yn dal cysylltiad â Berea, sef yw hwnnw, Mr. William Humphreys (Elihu), Blaenau Ffestiniog. Yn y flwyddyn 1858, rhoddodd y gweinidog yr eglwys i fyny, er tristwch mawr i'r frawdoliaeth. Yr oedd yn bregethwr efengylaidd ac ysgrythyrol, ac ym meddu ar gyfiawnder o lais clir a melodaidd. Diaconiaid yr eglwys ar ymadawiad y Parch. W. Roberts oeddynt y brodyr Henry Jones, adeiladydd llongau; Owen Jones, asiedydd; a Griffydd Humphreys, dilledydd, yr hwn hefyd oedd y codwr canu.

Wedi i'r gweinidog gefnu arnynt nid oedd gan yr eglwys ddim i'w wneud ond dibynu ar garedigrwydd gweinidogion Harlech a'r cylch; ond ychydig o gefnogaeth a gawsant y tro hwn, ac awgrymodd y brawd Hugh Williams, llifiwr, mai mwy dymunol a fyddai iddynt ddyfod i ddealldwriaeth â Mr. William Jones, y chandler. Yr oedd ef yn bregethwr rhagorol, ac yn un a berchid gan bawb. Perthynai efe y pryd hynny i'r Bedyddwyr Cambelaidd yng Nghriccieth. Yr oedd rhai o eglwys Berea ar delerau lled gyfeillgar â Mr. Jones, ac yn gogwyddo at yr un golygiadau diwinyddol. Yr oedd Mr. Jones erbyn hyn yn dechreu heneiddio, ac yn awyddus am le i addoli yn ymyl, fel na byddai raid iddo fyned i Griccieth ar y Sabathau. Ac nid oedd ei angen yno gymaint ag a fu, oherwydd fod dau wr ieuanc wedi dechreu pregethu yno, sef Mr. William Williams, Siop yr Eifion, a Mr. Richard Lloyd, ewythr Mr. Lloyd George. Bu Mr. William Jones yn pregethu ar brawf rai gweithiau cyn i'r frawdoliaeth roddi sêl eu cymeradwyaeth arno. Ofnai rhai nad oedd yn iach yn y ffydd, yn ol credo'r enwad. Y diwedd fu i eglwysi Meirion a Phorthmadog foddlonni i dderbyn Mr. Jones,