Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fynwyd ymneillduo'n llwyr oddi wrth eglwys Berea, a dechreu achos iddynt eu hunain; a'r Sul dilynol ymgynullasant mewn sail room yng nghefn Britannia Terrace, perthynol i Mr. William Jones (Lloyd's Surveyor). Canlyniad naturiol y rhwygiad hwn ydoedd gadael eglwys Berea heb ond rhyw saith neu wyth o aelodau ynddi. Erbyn y flwyddyn 1860 dechreuodd adfywio drachefn, a bedyddiwyd saith o'r newydd.

Yn y Gynhadledd Flynyddol yn 1881 pasiwyd i roddi galwad i'r Parch. Stephen Jones, y pryd hynny o Ruabon,—i ddyfod i wasanaethu eglwysi Meirion ac Arfon, fel cenhadwr efengylaidd i'r Cyfundeb. Ac yn 1882 dechreuodd ar ei waith cenhadol yn eglwys Berea, pryd y rhifai'r eglwys 28ain, a gweinidogion y Cyfundeb yn llenwi'r pwlpud yn eu tro ar y Sabothau—fel yntau. Parha'r brodyr da hyn i estyn eu gwasanaeth gwerthfawr i'r frawdoliaeth, ac unig wobr y gweision am eu gwaith yn Berea yw eu hyder yn yr Arglwydd y cant gydgyfarfod â'r rhai y llafuriasant yn eu mysg. Yn y flwyddyn 1895 aed i'r draul o £130 i adgyweirio'r addoldy.

Yn ystod gweinidogaeth y Parch. Stephen Jones bedyddiwyd a derbyniwyd i gymundeb eglwysig 32. Aelodau a dderbyniwyd o eglwysi eraill, 10. Aelodau wedi ymfudo o Berea i eglwysi eraill, 13. Marwolaethau, 24. Rhif yr aelodau yn Nhachwedd, 1912, ydyw 28.