Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y GARTH

Dechreu'r Achos 1838
Adeiladu'r Capel 1845
Helaethwyd 1856
Adeiladu'r Capel presennol .1896-88


Y Gweinidogion

Y Parch. Thomas Owen 1860-1903
Y Parch W. T. Ellis, B.A., B.D. 1905


Dyn gwahanol iawn i'r Parch. W. Ambrose ydoedd y Parch. John Jones, Tremadog, er ei fod yn bregethwr o nôd gyda'r Methodistiaid—a hynny oedd ei gryfder. Yr oedd ym more ei oes yn hynod geidwadol ei ysbryd, ac yn hwyrfrydig i symud gyda'r oes. Pe'n fwy byw i "arwyddion yr amserau" buasai safle'r enwad yn y Dosbarth yn wahanol hyd yn oed i'r hyn ydyw heddyw. Gwrthwynebai yn gadarn y syniad o adeiladu capelau'n yr ardaloedd cylchynol, hyd nes y trechwyd ef yn llwyr gan y mwyafrif. Credai ef nad gormod oedd i'r bobl gerdded o Benmorfa a chyrion pellaf Porthmadog i'r gwasanaeth i Dremadog. Y canlyniad fu iddo weled yr Annibynwyr yn codi capelau cyfleus, o fewn cyrraedd y deiliaid, a bod heddyw yn rhai o'r ardaloedd ddau enwad, lle na ddylesid bod ond un, o herwydd Methodistiaid oedd corff y bobl. Nid oedd y trefniadau ychwaith yn gyfryw ag i ddigoni dyheadau'r bobl. Ni chynhelid yno ar y cyntaf ond dau foddion ar y Saboth —ysgol y bore ac oedfa'r hwyr. Trefn y daith y pryd hynny oedd—Criccieth y bore, Brynmelyn y prydnawn, a Thremadog y nos; ond yn raddol deuwyd i gael pregeth yn Nhremadog fore a hwyr. Erbyn y flwyddyn 1838—blwyddyn Diwygiad Beddgelert—yr oedd cynnifer a thriugain o'r cyflawn aelodau yn dyfod o Borthmadog a Phorth y Gest, ac yng ngwres y Diwygiad hwnnw dechreuasant ymgynnull ynghyd i dai eu gilydd i gynnal cyfarfodydd gweddio cyn myned i Dremadog erbyn yr oedfa ddeg. Ymhen dwy flynedd dechreuasant gynnal Ysgol Sabothol yno. Y personau amlycaf gyda hyn oedd:—Mri. Hugh Hughes (y