Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Parch. Hugh Hughes, Gellidara, wedyn); John Richards; William a Griffith Jones,—Tan y Lon, Criccieth, ar y pryd; John Roberts, Penyclogwyn; Capten William Hughes, a Capten Pritchard; ac yn y flwyddyn 1844 cawsant help Mr. Morris Davies—Bangor ar ol hynny. Dechreuasant gynnal yr Ysgol mewn rhan o dŷ, ar ffordd Penyclogwyn, oedd yn eiddo y Capten Pritchard, a gelwid hi yn "Ysgoldy Bach"; ac er mai bechan ydoedd byddai'n fynych o 70 i 80 yn bresennol. Ychwanegwyd nifer y moddion yn fuan trwy gynnal ambell bregeth, a chyfarfod gweddi, a seiat. Cofnodir i Moses Jones draddodi pregeth neillduol yno, ac i John Williams, y Garn, draddodi pregeth gydag arddeliad mewn warehouse yn perthyn i Mr. Robert Lloyd, Ffestiniog, pryd yr ymunodd deunaw o'r newydd a'r achos. Pregethid yn fynych hefyd yn yr awyr agored, ac oddiar fyrddau'r llongau, gan y Parchn. Robert Owen, Rhyl; Richard Humphreys, Dyffryn; Evan Williams, Morfa Nefyn; a David Charles—Abercarn y pryd hynny, ac eraill.

Wedi boddloni ar bethau felly am ysbaid, dechreuodd y personau a enwyd, ynghyda Mri. William Williams, Llanerch, a John Davies, shipper, amlygu eu hawydd i gael capel cyfaddas; ond ni chawsant gefnogaeth. Er hynny penderfynasant ymgymeryd â'r cyfrifoldeb eu hunain; ac erbyn y flwyddyn 1845 yr oedd y capel yn barod ganddynt. Ymaelododd tua 60 o aelodau Tremadog â'r eglwys newydd ym Mhorthmadog. Y blaenoriaid cyntaf oeddynt: —Mri. John Richards, Morris Davies, a Griffith Jones. Cynhyddai'r dref yn gyflym yn y cyfnod hwn; lliosogai'r achosion crefyddol yn gyfochrog â hynny, gan ychwanegu'n barhaus at nifer yr enwadau a'r addoldai. Cyflymed oedd y cynnydd fel nad oedd yr un o'r enwadau, ar y cyntaf, wedi ei ragweled a darparu'n ddigonol ar ei gyfer. Codi capel bach, ei helaethu, a'i ail-adeiladu, a fu eu hanes i gyd: a hynny fu hanes y Garth. Ymhen un mlynedd ar ddeg, penderfynwyd codi capel ym Morfa Bychan. Yr oedd yr Annibynwyr yno er's chwarter canrif. Ymadawodd deg o aelodau'r Garth i fyned yno. Tua'r