Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mlynedd ar bymtheg. Bu farw ar y 27ain o Ionawr, 1908.[1] Ar ol Mr. H. Llewelyn Jones, dewiswyd yn flaenoriaid y Mri. D. Williams, Custom House; Robert Roberts, y Bank; a Capten John Owen. Fel y symudai'r boblogaeth yn fwy i'r gwastadedd, teimlai rhai o'r brodyr fod safle'r capel yn anfanteisiol iddo, a theimlid hefyd fod angen am ei adnewyddu drachefn. Dadleuai rhai gyda sêl dros symud i fan mwy canolog; ond gwrthwynebid hwy gyda'r un brwdfrydedd gan rai o'r hen frodyr, yn enwedig Mr. William Williams, Llannerch. Teimlai'r dosbarth cyntaf nad oedd modd eangu'r hen gapel fel ag i gael yno ysgoldy a chlasrŵm, oherwydd y graig oedd o'r tu ol iddo. Bu llawer o bwyllgora ynglyn â hynny; ond y canlyniad fu, i bawb symud yn unfryd ac adeiladu capel newydd—y Garth presennol. Am waith y symudiad hwn dywed y Parch. Thomas Owen:—"Llawenydd mawr gennym allu dweyd er yr holl bwyllgorau a gynhaliwyd a'r gwahanol syniadau a draethid, na bu'r anghydfod lleiaf drwy yr holl drafodaeth. . . . . O'r diwedd aethpwyd o gwmpas i ymofyn addewidion at draul yr adeilad. . . . Calonogid ni yn fawr trwy yr addewidion a gafwyd. oedd rhai ohonynt yn aeddfed ffrwyth, yn disgyn gyda'u bod yn cael eu cyffwrdd, eraill yn fwy anniben, ond yn dyfod o'r diwedd."

Agorwyd y capel newydd yn nechreu'r flwyddyn 1898. Erbyn diwedd y flwyddyn yr oedd dros ddwy fil o bunnau wedi eu derbyn, sef:—

Tanysgrifiadau gan aelodau yr Eglwys a'r Gynulleidfa £1488 8s 6d Tanysgrifiadau trwy Docynau Casglu £83/13/6 Tanysgrifiadau cyfeillion tuallan i gylch y Gynulleidfa .£440/16/4 Llogau, gan gynnwys Llog o'r Banc £18/14/11 Ardreth dau dy yn Dora Street, hyd Mai 13eg, 1898 £37/17/6 Cyfanswm £2069/10/9

Yr oedd yr holl draul yr aed iddo yn £5,178 3s. 2c., yn cynnwys £250 am y tir, £145 am ddau dŷ y dywedid

  1. Gwel Y Drysorfa, Ionawr, 1909.