Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Jones, Eifion Villa; Owen Hughes; William. Jones (Ffestinfab), a W. Emlyn Jones. Ond cyn i'r flwyddyn derfynu bu farw Ffestinfab[1] a Mr. R. Hughes, Cambrian Mills; a chyn i'r flwyddyn newydd gerdded ymhell, cwympodd un o'r swyddogion ieuengaf. Mr. W. Emlyn Jones—gwr ag y disgwyliai'r eglwys lawer oddi wrtho. Bu farw ar y 24ain o Ionawr, 1909. Yn y flwyddyn 1908 y cynhaliwyd sale of work, tuag at ddiddyledu'r capel, a bu'r elw oddiwrthi'n £138.

Cododd mwy o bregethwyr o'r Garth nag o'r un o'r capelau eraill Mr. Evan Jones,—brodor o Lanelltyd, a fu farw pan oedd yr eglwys yn ei mabandod; y Parch. Henry Hughes—Brynkir yn awr; R. O. Morris, M.A., Birkenhead; David Jones, a fu farw'n ieuanc; a'i frawd addawol, R. W. Jones, M.A., a sefydlwyd Medi, 1913, yn Gerlan, Bethesda.

Nifer yr eglwys ar derfyn 1912 ydoedd cyflawn aelodau, 292; plant, 100. Yr Ysgol Sabothol: swyddogion, 3; athrawon ac athrawesau, 40; holl nifer ar y llyfrau, 272.

Ysgol Tan y Garth: swyddogion, 2; athrawon ac athrawesau, 11; holl nifer ar y llyfrau, 65.

Swm y ddyled, Rhagfyr, 1912, £1,759 8s. 4c.

Swyddogion:

Gweinidog.—Y Parch. W. T. Ellis, B.A., B.D.

Pregethwr.—Mr. Richard W. Jones, M.A.

Blaenoriaid.—Mri. Richard Hughes, John Lewis, Capten Morgan Jones, Mri. J. T. Jones, Wm. Jones ac Owen Hughes.

  1. Gwel Y Drysorfa, Awst, 1909.