Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ewrob ar y pryd genedl fwy dinod a phrinach o fanteision nag oedd y Cymry. Bychan, a bychan iawn, oedd ein Cyfundeb ni yr adeg honno; ond yr oedd yn nodedig o fyw, o gynes, ac o egniol; a chynhyddodd trwy ras Duw yn rhyfeddol. Ni wnaeth yr un enwad fwy nag ef o blaid Addysg, Dirwest, a Llenyddiaeth." Gwnaed apêl ar ran y Cyfundeb am Gasgliad y Ganrif, a chasglwyd £564.

Rhifai'r aelodau eglwysig 500. Yr Ysgol Sabothol —Y Tabernacl, 505; Ysgol Sabothol Snowdon Street, 115; yr holl gynulleidfa, 756.

1901. Gwaeledd y gweinidog. Yr eglwys yn rhoddi seibiant iddo, a'i gynorthwyo.

1903. Dychweliad ac adferiad. Mrs. Rowland yn anrhegu'r eglwys â Llyfrgell ei phriod, a gynhwysai 350 o gyfrolau, ynghyda darlun o Mr. R. Rowland.

1904. Marw dau flaenor—y Cadben Robert Williams, a Mr. Richard Hughes, ac wyth aelod arall—ac ni chollwyd "erioed rai rhagorach—mwy cysegredig i grefydd, a mwy aeddfed i ogoniant."

1905. Marw blaenor arall—Mr. John Owen, Paris House "Gwr doeth a galluog, nodedig am ei ysbryd rhagorol, ac am ei dduwioldeb caruaidd; enwog am ei haelioni distaw, ac am ei ffyddlondeb gostyngedig ymhob cyfarfod."

Ethol Mr. Richard Davies yn flaenor.

1907. Marw Mr. Daniel Williams. Anfynych y cafodd unrhyw eglwys flaenor llawer rhagorach—mwy doeth ac uniawn, mwy ffyddlawn a gofalus, neu fwy bendithiol ei ddylanwad nag ef."

Dewis y Mri. John Kyffin a Robert Jones Lloyd yn swyddogion.

1908. Y gweinidog yn rhoddi trem ar hanes yr eglwys.

"Yn ei ffyddlondeb i gynorthwyo'r Corph, trwy y Casgliadau Cyfundebol, credaf na pherthyn iddo eglwys yn ol ei hamgylchiadau yn rhagori arni yn hyn. Pe gwnai y gweddill gystal a hi, prin y gallai y Cyfundeb ddefnyddio ei gyfoeth. Cred lluaws oddiallan i ni ein bod yn eglwys oludog iawn; gwyddom ni sydd ynddi