Tudalen:Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar g'oedd mewn gwisgoedd gwyrdd.
Heb law—mae yma lu,
O ddynion ceinion cu—
Ffermwyr, mwnwyr,glowyr glewion,
Serchoglon ffraethlon ffri.
Pwy'n fwy ffyddlon o blaid Union[1]
Na'r dynion haelion hyn,
O wiwbryd dwysdeg heb un dibrisdod
Pur glod tra pâr y glyn.
Gan fod fath ddynion mâd,
Fel hyn y'nglyn o'ngwlad,
'Rwy'n gallu'n dawel lwyr anghofio
Hen fwthyn gwyn fy nhad;—
A bwrw'm hiraeth—araeth wrol.
Mewn gwlad estronol glyd,
Gan gael yn llonwedd bob tangnefedd
Ymgeledd hedd o hyd.

'E fu blynyddau nad oedd ond llwybrau
Trwyr caeau i fyn'd i'r calch,
Y nos wrth groesi rhai mor geimion
Bu gwirion lawer gwalch[2]
I'r mab mwyneiddgu 'doedd ffordd i dramwy
At Sianu morwyn Sion.
Yn amser geua, gan rew ac eira,
Ow, dyna oedd ei dôn—
"Ffarwel fy anwyl Sian,
Fwyn wisgi lwysgi lân,
'Does genyf obaith mwy dy weled
Nes toddo'r eira man.
'Nol estyniad dydd, fy nghariad,
Mi wnaf yn ddiwad ddod,
I gael eto mwyn gyfrinach
Yn nhafarn bach y co'd."
Ond 'nawr na fyddwn brudd—
O'r diwedd daeth y dydd—

  1. Cyfeiriad at yr Union oedd gan y gweithwyr 35 mlynedd yn ol.
  2. Gwr caru.