Tudalen:Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Can' mlynedd i 'nawr dy ffydd droir yn olwg—
A'th obaith, sy'n wanllyd, yn hyfryd fwynhad;
Can' mlynedd i 'nawr cei weled yn amlwg,
Yr hyn mewn addewid a roddodd y Tad.

Cei sefyll yn wrol ar fryniau Caersalem,—
Cei goron i'th ben, a thelyn i'th law;
Rhy faith fyddai enwi'r dedwyddwch anrhaethol
A fydd yn dy feddiant can' mlynedd i 'nawr.


NADOLIG CRIST.

Neshawn, mae'n llawn bryd, o ddafryd y ddwy fron,
At breseb yr ŷch, mewn ceinwych amcanion;
Duw—dyn mewn cadachau ar liniau'r un lanaf,
O gariad at ddynion, ei alon, a welaf.—
Lawr o'i dragwyddawl le breiniawl, i brynu—
I ddynion rhyddhad, doeth wysiad, daeth Iesu;
Gogoniant cyd—ganwn trwy dwthwn tra dethawl,
 
Cawd medddyg i'r clwyfus anafus—un nefawl.
Rhyfeddod gwel'd brenin pur iesin mewn preseb—
I'selder annhraethawl—daeth unol doethineb.
Seion bydd lawen—cun addien, can iddo,
Twr cadarn yw Arglwydd dwys—hylwydd dy Silo.




Er rhyddhau, do rhoddwyd iawn—dwys a chur,
'Does achos am ail-iawn;
Yn gyfaill Duw, cein—Dduw, cawn
Yr annuw, drwy yr un-iawn.