Tudalen:Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Anadlodd gwych ganiadau,
Sy'n fywyd drwy y wlad;
Llenoriaeth mwys wybodau,
Fu'n denu i dalent mad;
O gelloedd cudd henafiaeth,
Cawn geinion ganddo ef,
Gwresoga'n llon ein gwladgar fron,
A hanes lawn o'n trof.

Er henaint du a'i dolur,
I nychu'i dyner fron,
Boed iddo balm gwir gysur,
Dan bob adfydus dón,
Ei hwyrol ddydd fo'n hyfryd,
Fel huan llawn o hedd,
Dan iesin wawr yn myn'd i lawr,
I'r tywyll distaw fedd.

Tredegar.
—S. THOMAS (Gwgan Gwent.)




Argraffwyd yan J. Thomas, Tredegar.