Tudalen:Hanes ac ystyr enwau lleoedd yn Môn.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HANES AC YSTYR ENWAU LLEOEDD YN MON.

MON sydd ynys neu randir,yn gorwedd yn Ngogledd Gwynedd, yn cael ei chylchynu ar yr ochr orllewinol gan fôr yr Iwerddon, ac yn wahanedig oddi wrth Arfon gan gulfor Menai. Ceir amrywiol farnau gan hynafiaethwyr o berthynas i darddiad ac ystyr yr enw Menai. Tybia Mr. ROBERT EVANS, Trogwy, ei fod wedi tarddu oddiwrth fynedfa Mèn dros yr afon, ac mai yr ystyr yw- "Mèn â âi." Casgla Mr. ROWLANDS, awdwr y "Mona Antiqua," mai ystyr y gair yw Main aw" (dwfr cul), oddiwrth ansawdd y lle yn y dechreuad, oherwydd dywedir fod afon Menai wedi bod mor gul fel y gallai dyn lamu drosti. Tybir gan luaws o hynafiaethwyr eraill, fod y wlad hon wedi bod unwaith yn gysylltiedig â gwledydd eraill Gwynedd; ond ei bod, mewn amser diweddarach, wedi ei gwahanu oddiwrthynt trwy gynhyrfiad gwastadol, a graddol ymchwyddiad y môr.

Y mae hen olion Priest Holme Island, a ganfyddir ar drai isaf y môr—yn enwedig pan fydd yn alban eilir (vernal equinox)—yn cadarnhau y syniad yma. Gelwir yr ynys hon "Glanach," ac yn "Ynys Seiriol," oddi