Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd y pregethau diweddaf hyn o eiddo Mr. Rees, fel y byddai yr eiddo ef bob amser, yn rhai gwir dda; yr oeddynt hefyd yn neillduol ar y cyfryw amseroedd a'r amseroedd presennol. Yr oeddynt yn oedfaon gwlithog, a'r gwrando yn astud iawn. Treuliwyd y cyfarfod eglwysig canlynol yn gwbl i ymddiddan ar y pregethau, ac yr oedd yn ymddangos iddynt fod yn fendithiol i lawer.

Cawsom y fraint hefyd o eistedd wrth y bwrdd, ac edrych a gwrando arno yn gweinyddu Swper yr Arglwydd am y waith olaf am byth. Yr oedd rhyw arbenigrwydd neildduol ar weinyddiad yr ordinhad ddwyfol hon hefyd, oherwydd yr oedd ar y pryd ryw arogl esmwyth yn disgyn ac yn pereiddio'r lle. Ar ol sylwadau neillduol ar ddechreuad y gwasanaeth hwn, ac hefyd ar ol gweddi o'r fath fwyaf difrifol, aeth Mr. Rees trwy'r gynnulleidfa yn flaenaf, gan gymmeryd yn ei law y bara i'w gyfranu, yn cael ei ddilyn gyda'r gwpan a'r gwin gan y Parch. Mr. Lewis, diweddar genadwr ar fryniau Cassia, yn India'r Dwyrain. Yn ystod y gweinyddiad yr oedd Mr. Rees wrth gyfrauu'r bara yn sefyll yn awr ac eilwaith, a hyny yn aml, ac mewn llawn sel, hwyl, teimlad, a phrofiad; yn traethu am berson a gogoniant y dyn Crist Iesu-ei aberth teilwng yn ei werth, ei rinwedd, a'i effeithiau, nes ennil yr eiddil diwerth i ymddiried ynddo, a gorchfygu yr oer diserch i'w gofleidio a'i garu. Wrth ein hannog i gofio fod ein Cyfryngwr yn wir ddyn-yn meddu ar wir deimladau y ddynoliaeth yn ei stad berffeithiaf-a'r teimladau hyny heb erioed eu hanmharu na'u niweidio gan bechod; yn a thrwy y pethau hyn yr oedd yn rhwymo serch y Cristion wrth ei Geidwad yn fwy tŷn nag erioed. Yr oedd yn amlwg wrth ei weled a'i glywed ei fod ef ei hunan yn rhyfeddu, addoli, a mawrhau trefn gras yn ei enaid; ac yr oedd y rhai a cisteddent wrth y bwrdd, ni a obeithiwn, yn gwledda ar yr arlwy ysbrydol fel yntau.

Cawsom y fraint hefyd o wrando ar a gweled Mr. Rees am y tro diweddaf yn gweinyddu yr ordinhad o fedydd. Yr un bychan a fedyddiwyd ganddo oedd blentyn i Mr. J. H. Symond, ein bugail; a'i wraig. Fel yr oedd Mr. Rees yn neillduol yn mhob peth, felly hefyd yr oedd efe yn hyn o orchwyl. Pan aethom i mewn, yr oedd