â chynnorthwyon a dylanwadau yr Ysbryd Glân—yr hwn a welwyd yn rhoddi pob nerf, a nerth, a dylanwad a feddai i rybuddio pechadur, a'i ennill at Fab Duw, sydd erbyn heddyw wedi dystewi am byth! O fy enaid, y mae i ti groesaw i ymdywallt allan y galar mwyaf eithafol; cwyna yn herwydd dy fawr golled; tywallt allan dy ddagrau yn ffrydiau cryfion; y mae yn rhesymol gwneyd felly.
Wrth i ni gymmeryd ein safle ar feddrod y meirw, sef ein pregethwyr ymadawedig, y mae genym ryw beth tra phwysig i'w ystyried. Pan yr aeth Elias o Fon i'r bedd, yr oedd ar y maes lu mawr o dywysogion yn y weinidogaeth wed'yn yn aros, megys Roberts o Amlwch, Hughes Pont Robert, Jones o Talsarn, Dafydd Jones o Gaernarfon (Treborth wedi hyny), Hughes o Lerpwl, Phillips o Fangor, ac yn eu plith yr hwn y bydd ei enw mor anfarwol a'r un o honynt—ein hanwyl Henry Rees. Y mae yr oll o'r rhai uchod erbyn hyn wedi eu cwympo, a'r derw cedyrn wedi eu dadwreiddio un ac oll. Ni a obeithiwn eto fod aml i gedrwydden, ac aml i dderwen yn mhriddellau athrofa y Bala, y rhai pan y transplantir hwy i briddellau yr eglwysi, y byddont yn brenau cedyrn yn y tir.