fynych i gynal moddion iddynt hwy yn Aberystruth, ac ystyrid hwy fel cangen o eglwys Ebenezer. Gan nad oedd ty cyfarfod gan yr eglwys yn Mhontypool, ymroddodd Mr. Jones, yn fuan wedi iddo ymsefydlu yno, at y gwaith o ddarparu er adeiladu addoldy. Yr oedd y draul lawer yn fwy na gallu y bobl i'w dwyn, ac felly rhoddodd ef ddeg punt ar hugain ei hun at ddwyn y gwaith yn mlaen, pryd nad oedd ganddo yn y byd ond deugain punt. Gorfu iddo drachefn werthu gwerth pymtheg punt o'i lyfrau er cael arian i fyned a'r gwaith yn mlaen. Cyfeiria Whitefield at hyn yn effeithiol, mewn llythyr a ysgrifenwyd ganddo yn Abergavenny, Mai 27ain, 1749: "Dydd Iau. Gwelais Mr. E. J; y gweinidog Ymneillduol y sonias am dano o'r blaen, a chefais ef wedi ei ddilladu yn wael iawn. Mae yn ddyn gwir deilwng, ac oddiar ei sel dros Dduw, darfu iddo amser yn ol, werthu gwerth pymtheg punt o'i lyfrau er cael modd i orphen y ty cyfarfod bychan, yn yr hwn y mae yn pregethu."[1] Mewn llythyr a ysgrifenodd Mr. Jones at Mr. Howell Harries, yr hwn oedd y pryd hwnw yn Llundain, dyddiedig Awst 7fed, 1741, cawn yr hyn a ganlyn: "Yr wyf yn awr yn dechreu casglu ychydig gymorth at adeiladu y ty cyfarfod, ac mi a af oddiamgylch y tai cyfarfod a'r cymdeithasau (tai cyfarfod yr Ymneillduwyr, a chymdeithasau y Methodistiaid, mae yn debygol) lle y mae genyf ryw fesur o adnabyddiaeth, ac y byddaf yn debygol o gael fy nerbyn. Os ydych yn adnabyddus a rhai gweinidogion Ymneillduol caredig, ac a'u pobl, yr wyf yn dymuno arnoch ofyn iddynt am ychydig o gymorth at adeiladu ein ty cyfarfod; ychydig o'r hyn a allont hebgor yn rhwydd. Peidiwch a gofyn i neb, ond i'r rhai y barnoch fod ganddynt ffydd i gredu y gwobrwyir hwynt am eu caredigrwydd. Os gwnewch ychydig wasanaeth i mi yn y ffordd hon, bydd yn garedigrwydd mawr yn wir, a dichon, mewn amser, y byddaf yn alluog i'ch ad-dalu, ond os na wna fi, fe wna Duw."
Mae yn ymddangos nas gallodd ddechreu ar y gwaith o adeiladu cyn gwanwyn y flwyddyn 1742, ac y mae yn dra thebygol nad agorwyd y capel cyn 1743. Ar ol cael cartref i'r arch, trwy lawer o lafur, a hunan-ymwadiad diail o du y gweinidog gweithgar, beth bynag am ei bobl, parhaodd y gwas ffyddlon hwn i weinidogaethu yn ei hoff Dy Cyfarfod, Ebenezer, hyd derfyn ei oes, yr hon a estynwyd allan yn hwy na'r eiddo nemawr o'i gydoeswyr. Nid ymddengys fod gan Mr. Jones gynnulleidfa luosog iawn yn Ebenezer, ar unrhyw dymor o'i oes weinidogaethol yno. Yr oedd ganddo, fel y nodasom, gangen o'i eglwys yn addoli mewn anedd-dai yn mhlwyf Aberystruth, y rhai ni ddeuent ond anfynych i Ebenezer, o herwydd pellder y ffordd. Yn ol yr ystadegau a gasglwyd yn 1773, gan Mr. Josiah Thompson, o Lundain, dau cant oedd rhif cynnulleidfa Mr. Jones, yn Ebenezer a'r Blaenau, neu Aberystruth, yn y flwyddyn hono, ac nid ymddengys iddi luosogi nemawr o'r pryd hwnw hyd amser ei farwolaeth ef yn 1793. Ond os nad oedd y gynnulleidfa hon ond bechan mewn cyferbyniad i rai cynnulleidfaoedd eraill yn y sir, yr oedd rhai o'r teuluoedd parchusaf yn yr ardal yn perthyn iddi, ac yr oedd trwy enwogrwydd ei gweinidog rhagorol, fe ddichon, yn fwy adnabyddus nag un gynnulleidfa arall yn y wlad i Ymneillduwyr Cymru a Lloegr. Darfu i enw Edmund Jones anfarwoli enw Ebenezer, Pontypool.
Wedi marwolaeth Mr. Jones, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Ebenezer Jones, myfyriwr yn yr athrofa a gedwid y pryd hwnw yn Abertawy, ond
- ↑ Rees's History of Nonconformity in Wales, pp. 431.