Newburgh, Ohio. Wedi derbyn yr alwad o Ebenezer, aeth drosodd i'r America i hol ei wraig. Pan gyrhaeddodd yno, cafodd hi yn gorwedd yn glaf mewn twymyn, a bu farw yn mhen ychydig ddyddiau. Ar ol ei chladdu, dychwelodd ef i Gymru, a dechreuodd ei weinidogaeth yn Ebenezer yn Mawrth, 1865. Cynaliwyd ei gyfarfod sefydliad ar y 7fed a'r 8fed o Fai, yn yr un flwyddyn. Ar ol llafurio yn dderbyniol a llwyddianus am tua dwy flynedd, gwaelodd ei iechyd i'r fath raddau, fel y bu raid iddo roddi ei ofal i fyny yn Medi, 1867.
Bu yr eglwys drachefn am ddwy flynedd heb weinidog. Yn niwedd 1869, rhoddwyd galwad i Mr. R. Hughes, yr hwn oedd wedi ei urddo yn Adulam, Tredegar, Rhagfyr 25ain, y flwyddyn flaenorol, ac y mae wedi dechreu ei weinidogaeth yno er's rhai misoedd. Hyderwn y bydd yn llwyddianus.
Mae amryw bregethwyr, o bryd i bryd, wedi cael eu cyfodi yn yr eglwys hon. Wele yn canlyn enwau cynifer o honynt ag y gwyddom ni am danynt:—
John Powell; am yr hwn y bydd genym ryw grybwyllion i'w gwneyd ynglyn a hanes eglwys Henllan, swydd Gaerfyrddin.
Thomas Saunders; gweler hanes eglwys Heol-y-felin, Casnewydd.
William Jayne. Derbyniwyd ef i Athrofa Abergavenny yn Mawrth 1771. Yn ei adroddiad blynyddol o sefyllfa yr Athrofa, dyddiedig Rhagfyr 16eg, 1774, dywed Dr. Davies fod W. Jayne wedi myned rhagddo yn lled dda yn ei wybodaeth o'r ieithoedd, a'i fod yn debygol o droi allan yn bregethwr derbyniol, ond ei fod y flwyddyn hono wedi colli llawer o'i amser o herwydd cystudd. Yr oedd ei dymor i fyny yn yr Athrofa yn Mawrth, 1775, ac yr ydym yn tybied iddo farw yn fuan ar ol hyny.
Rees Lloyd. Yr oedd yn byw yn ardal Cwmbran. Cyhoeddodd farwnad i Edmund Jones. Ymfudodd i'r America tua dechreu y ganrif bresenol. Hyn yw y cwbl a wyddom ni am dano.
Herbert Daniel, Cefnerib; yr hwn a ddaw dan ein sylw gydag hanes Tabor, y Trosnant, a Chefnerib.
Thomas Morgan. Derbyniodd ei addysg yn Athrofa y Drefnewydd; urddwyd ef yn y Trallwm, yn 1832, ac y mae yn bresenol yn Hinckley, sir Leicester.
James Lewis. Y mae y dyn da hwn wedi bod er's mwy na deugain mlynedd yn bregethwr cynnorthwyol parchus yn yr eglwys hon. Mae yn ddiweddar wedi ymadael o Ebenezer i New Inn.
William Jenkins. Dechreuodd yntau bregethu tua yr un amser a Morgan, Daniel, a Lewis. Tua blwyddyn yn ol urddwyd ef yn Salem, Bedwellty, cyn ei ymfudiad i America. Y mae efe yn dad i Mr. D. M. Jenkins, Drefnewydd, Maldwyn.
William Bowen. Dechreuodd bregethu yn 1865. Mae yn awr yn fyfyriwr yn Athrofa y Bala.
COFNODION BYWGRYPHYDDOL.
JEREMIAH EDMUNDS. Y cwbl a wyddom am dano ef yw ei fod yn weinidog yn Nhrosnant, yn 1717, a dechreu y flwyddyn ganlynol.
EDMUND JONES. Ganwyd ef yn Penyllwyn, yn mhlwyf Aberystruth, Mynwy, Ebrill 1af, 1702. Yr oedd ei rieni yn ddynion crefyddol iawn,