iaid bregethu yn eglwys y plwyf, o herwydd hyny arferent ymgynnull yn Gelligrug, yn Nghwm Tylerwy, sef ty John ap John. Cafodd Vavasor Powell unwaith lonyddwch i bregethu yn yr eglwys, ond pan ddarfu i Ambrose Mostyn gynyg pregethu yno gwrthodwyd agoryd y drws iddo. Yn wyneb hyny, safodd i fyny ar gamfa Ogleddol y fynwent, ac wedi iddo agoryd y Bibl, a darllen Ioan v. 25 yn destyn, dechreuodd rhai o'r gelynion waeddi, "Taw di, ni wyddem hynyna cyn dy weled di," yna tynasant ddraenogod meirw, oedd yn grogedig yn yr ywen, a thaflasant hwynt gyda chrechwen ddieflig at y pregethwr. Yn wyneb hyn y cauodd y llyfr, ac aeth ef, a chynifer o gyfeillion crefydd oedd yno, i lawr i Gelligrug, lle y cawsant lonyddwch i gynal yr addoliad. Cofnoda Edmund Jones ffaith nodedig arall, yr hon a ddylid gadw ar gof. Yr oedd dyn gwrol, creulon, ac annuwiol iawn, o'r enw John James, neu John James Watkin, yr hwn a fuasai yn filwr yn myddin y brenin, yn byw yn y plwyf hwn. Wedi i'r brenin a'i blaid gael eu gorchfygu daeth adref. Clywodd ryw dro fod Mr. Jenkin Jones, Llanddetty i bregethu yn Gelligrug. Gwyddai ei fod i fyned trwy Gwm yr Eglwys wrth fyned o Landdetty i Gelligrug, a chan gymaint ei lid at y "Pengryniaid," aeth, wedi ymarfogi a chleddyf, i ymyl y ffordd i ddisgwyl Mr. Jones i basio, gyda bwriad i ymosod arno a'i ladd. Yn mhen ychydig daeth y pregethwr yn mlaen ar ei anifail, a phan ganfu ddyn mewn gwisg filwraidd yn sefyll ar y ffordd, cyfarchodd ef yn foneddigaidd. Darfu i olwg urddasol Mr. Jones, a boneddigeiddrwydd ei foesgyfarchiad, lwyr orchfygu teimlad y dihyryn llofruddiog nes y methodd gael nerth i gyflawni ei fwriad. Dilynodd ef i lawr i Gelligrug, gwrandawodd y bregeth, ac effeithiodd y Gair yn achubol ar ei galon. O'r dydd hwnw allan, hyd derfyn ei oes, bu yn grefyddwr selog, ac yn ddyoddefydd diysgog yn achos ei grefydd yn nhymor yr erlidigaeth.
O adferiad Siarl II. hyd Ddeddf y Goddefiad, cafodd Ymneillduwyr y plwyf hwn, fel eu brodyr yn mhob man arall, ddwyn eu rhan o ddyoddefiadau. Dywedir i'r ynad Baker o Abergavenny, eu hyspeilio amryw weithiau o'u hanifeiliaid, i dalu y dirywon am gynal cyfarfodydd crefyddol, ac y mae yn ddigon tebygol i amryw o honynt gael eu carcharu. Annibynwyr gan mwyaf oedd Ymneillduwyr plwyf Aberystruth hyd yn agos i ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg, ond yr oedd yn eu mysg ychydig o Fedyddwyr, o bosibl er y flwyddyn 1652, ac yn amser yr erlidigaeth byddai y ddwy blaid yn cydaddoli yn gariadus, hyd nes i ryw Jenkin John, neu John Jenkins, dyn unllygeidiog o Ferthyr Tydfil, ddyfod i'w plith a pherswadio y Bedyddwyr i ymneillduo o blith yr Annibynwyr, a gosod i fyny addoliad ar eu penau eu hunain yn nhy Nest John Rosser, gan adael yr Annibynwyr yn unig yn Gelligrug. Ni ddywedir wrthym pa flwyddyn y cymerodd hyn le. Yn y flwyddyn 1668 cymerodd Mr. Watkin Jones ofal bugeiliol y gangen hon o eglwys Mr. Henry Walter; nid ar ol marwolaeth Mr. Walter, fel y cam ddywed Mr. Edmund Jones, ond flynyddau cyn hyny, canys yr oedd Mr. Walter yn fyw yn 1675, a dichon am rai blynyddau ar ol hyny. Bu Mr. Jones yn gofalu am y gangen hon hyd ei farwolaeth tua y flwyddyn 1693.
Gallem gasglu oddiwrth adroddiad cymysglyd Mr. Edmund Jones, mai yn Gelligrug y bu yr Annibynwyr yn addoli o 1646 hyd farwolaeth Mr. Watkin Jones, pryd y symudasant i dy Edmund David o Abertylerwy, ond y mae cofrestr y trwyddedau yn swyddfa papurau y llywodraeth, yn ymddangos yn gwrthdaro hyny. Cafodd tai Llewellyn Rosser a John