oddicartref, derbyniwyd trwy lythyrau 192, gollyngwyd trwy lythyrau—183, diaelodwyd 267, heblaw y rhai a ymadawsant heb lythyrau. Claddwyd 186 o blant, bedyddiwyd 592, a phriodwyd 50. Yn ystod gweinidogaeth Mr. Jenkins gosododd yr eglwys allan dros 1,000p. i adgyweirio y capel ac adeiladu ysgoldy, heblaw y draul fawr yr aethant iddi i adeiladu tŷ i'r gweinidog.
Yn y flwyddyn 1867, derbyniodd Mr. Edwin A. Jones, yr hwn oedd yn weinidog yn Tyrhos a Llandudoch, Penfro, alwad i sefydlu yma, a bu yma hyd ddechreu y flwyddyn hon (1870), pryd y rhoddodd ofal yr eglwys i fyny, ac felly y mae yn bresenol heb weinidog.
Mae eglwys Rehoboth er's mwy na deugain mlynedd bellach wedi bod yn un o'r rhai blaenaf yn mysg eglwysi y Dywysogaeth am ei llwyddiant, lluosogrwydd ei haelodau, ei doniau, ac yn neillduol ei gorchestion mewn casglu arian. Er nad yw yn bresenol yn agos mor lluosog ag y bu ar rai adegau yn nhymorau gweinidogaeth Mr. Stephenson a Mr. Jenkins, yr ydym yn gobeithio nad ydyw wedi gweled ei dyddiau goreu, ond fod etto o'i blaen adegau o lwyddiant a chysur cyfartal o leiaf i'r amserau goreu a welodd yn y blynyddau gynt.
Berea, y Blaenau, yw yr unig gangen a aeth allan yn uniongyrchol o Rehoboth, ond gellir ar lawer o gyfrifon ystyried yr achos Saesonig ar y Brynmawr, a Bethesda fel canghenau o'r fam-eglwys hon. Cawn sylwi yn mhellach ar hyn pan ddelom at hanes yr eglwysi hyny.
Cafodd y pregethwyr canlynol eu cyfodi yn yr eglwys hon:
Edmund Thomas. Dechreuodd bregethu yn Horeb, Caban Gwyn, ac yn 1825 ymadawodd a'r Annibynwyr, ac ymunodd a'r Bedyddwyr.
Morgan D. Morgan. Dechreuodd ef bregethu tua y flwyddyn 1826. Cafodd ei urddo yn Dudley Port yn 1852, cyn iddo ymfudo i'r America, lle y bu farw. Yr oedd yn frawd i Mr. H. Morgan, Sammah, Maldwyn.
Thomas Evans, Maesaleg. Gweler ychwaneg am dano yn nglyn a hanes yr eglwys yno.
Lemuel Smith. Daw ei hanes ef dan sylw yn nglyn ag eglwys y Tai-hirion.
Thomas Lloyd. Urddwyd ef yn Zoar, Maesteg, yn Medi 1843, ond bu raid iddo yn fuan roddi y weinidogaeth i fyny o herwydd gwaeledd ei iechyd. Y mae yn awr yn byw yn Ystradhafodog, Morganwg, yn pregethu yn achlysurol, ac yn dderbyniol a pharchus iawn gan bawb o'i gydnabod.
David Phillips. Yn hanes eglwys Carfan y cofnodir yr hyn a wyddom am dano ef.
John Thomas. Dechreuodd ef bregethu yn y flwyddyn 1840. mhen rhai blynyddau derbyniodd alwad oddiwrth eglwys Gymreig yn Mount Savage, America, ac ar gais yr eglwys hono urddwyd ef yn Saron Glyn Ebwy, cyn iddo gychwyn o'r wlad hon, "o herwydd" fel y dywed r gan yr eglwys yn Mount Savage, "eu bod yn ychydig mewn rhifedi, a gweinidogion Cymreig yn America yn preswylio yn mhell oddiwrthynt."
William Jenkins. Dechreuodd bregethu yn 1843. Urddwyd ef yn Capel Iwan a Llwyn-yr-hwrdd yn Mehefin 1846. Symudodd i fod yn weinidog i'w fam-eglwys yn 1850, ac yn 1866 ymadawodd oddiyno i Pentreestyll, Abertawy, lle y mae yn bresenol.
David Davies. Ar derfyniad ei amser yn y coleg yn 1849, urddwyd ef