na'r eglwys. Mae yn ddigon hysbys fod gelynion Ymneillduaeth a rhyddid yn wastad, pan gaffont ryw gysgod o esgus, yn barod i dywallt eu llysnafedd ar y pregethwyr a'r capeli, ac ni fu toriaid ac ucheleglwyswyr y Casnewydd yn ol o wneyd eu rhan i dduo yr achos hwn y pryd hwnw.
Yr oedd Mr. Byron yn un rhagorol dros ben gyda yr ysgol Sabbothol; a Mrs. Byron yn selog a medrus iawn hefyd yn y rhan hon o waith crefydd; a chan nad oedd plant ganddynt, yr oedd ganddi fwy o amser i dalu sylw i'r gwaith. Yr oedd ysgol Sabbothol Hope Chapel, yn amser Mr. Byron, yr oreu o ddigon o holl ysgolion Sabbothol y dref. Bu y gweinidog llafurus hwn hefyd yn foddion i feithrin ysbryd cenhadol i raddau dymunol iawn yn ei bobl. Yn y flwyddyn 1835, nid oedd y casgliad cenhadol ond 16p., ond cyfododd, o flwyddyn i flwyddyn, nes yr oedd yn 1840 yn 51p. Bu Mr. Byron farw, er galar dirfawr i'w eglwys yn Mawrth 1841. Buwyd dros flwyddyn ar ol marwolaeth Mr. Byron cyn gallu dewis canlynydd iddo. O'r diwedd rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Parry, o Blackburn, yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth yma Gorphenaf 17eg, 1842. Ychydig fu ei arosiad ef yn y lle. Rhoddodd ei weinidogaeth i fyny Ionawr 23ain, 1844, a symudodd i Dover, lle y bu farw yn fuan wedi hyny.
Wedi ymadawiad Mr. Parry, buwyd dri mis ar ddeg heb daro wrth ganlyniedydd iddo. Rhoddwyd galwad i Mr. Thomas L. Bright, myfyriwr yn yr athrofa Orllewinol, a dechreuodd ei weinidogaeth yma Chwef. 23ain, 1845. Yr oedd Mr. Bright yn dderbyniol fel pregethwr, a bu i fesur yn llwyddianus am y ddwy flynedd gyntaf, ond yn y drydedd flwyddyn deallwyd ei fod yn suddo mewn dyled, a thrwy hyny yn iselu ei gymmeriad a'i swydd. Bwriadai y diaconiaid fyned i siarad ag ef ar y mater, a phan ddeallodd yntau hyny, rhoddodd ei swydd i fyny, Mawrth 3ydd, 1848, ac ymfudodd i Awstralia. Nid ymddengys iddo wneyd dim a gwaith y weinidogaeth er y pryd hwnw.
Y gweinidog nesaf yma oedd Mr. John Barfield, B. A., o goleg Cheshunt, yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth Mai 27ain, 1849. Bu yma am bum' mlynedd, ac ymadawodd yn dra disymwth, Mehefin 4ydd, 1854. Nid ymddengys iddo fod yn y weinidogaeth oddiar y pryd hwnw. Mae tymhor gweinidogaeth Mr. Barfield yn hynod yn hanes yr eglwys hon, am mai dyma y pryd yr adeiladwyd y capel prydferth sydd ganddi yn bresenol. Yr oedd Hope Chapel, lle yr oedd yr eglwys wedi bod yn ymgynnull oddiar ei ffurfiad, er ei fod yn agos i'r brif heol yn y dref, etto yn lled annghyfleus, o herwydd ei fod tu cefn i'r tai, yn hollol o'r golwg, a'r ffordd ato trwy fynedfa hir gul. Yr oedd hefyd yn rhy fychan i gynwys cynnulleidfa mewn tref fel Casnewydd. Felly, ar ol llawer o gydymgynghori, cydunwyd i adeiladu capel newydd mewn man mwy ysgafn ac amlwg na'r hen gapel. Cafwyd darn o dir cyfleus yn Great Dock Street, mewn lle glan ac agored, ond prin y gallwn ganfod y doethineb o adeiladu addoldy mor gostus ar dir heb fwy na 54 o flynyddau o amser arno. Gosodwyd careg sylfaen y capel newydd gan Mr. Joseph Corsbie, un o'r diaconiaid, yr hwn ei hun a roddasai 700p. at y draul, Gorphenaf 9fed, 1850, ac agorwyd ef dydd Gwener, Rhagfyr 5ed, 1851, pryd y pregethwyd yn y bore gan Dr. John Harries, Llundain, ac yn yr hwyr gan Mr. Tyndall, Rhydychain. Y Sabboth canlynol pregethodd Dr. Stowell, o goleg Cheshunt, fore a hwyr. Holl draul yr adeiladaeth, a chynwys y cyfnewidiadau a wnaed ynddo ar