ef y fath (os na rwystrir ef gan ei wyleidd-dra) fel y gall symud o'i gylch presenol. Y mae yn ddyn o oed a safle briodol yn y weinidogaeth; ac y mae wedi bod o'r blaen yn is-athraw yn Abergavenny a Chroesoswallt; nid oes ganddo deulu, ond gwraig yn unig; y mae o gymmeriad difai; ac mewn parch cyffredinol fel gweinidog cristionogol. Y boneddwr yr wyf yn cyfeirio ato yw y parchedig Mr. Jenkin Lewis o Wrexham." Mewn canlyniad i'r awgrymiad hwn oddiwrth Dr. Williams, ysgrifenodd y Bwrdd at Mr. Lewis, i gynyg y swydd iddo, a chydsyniodd yntau a'r cais ar y 14eg o Ragfyr 1791. Gan nad oedd ef yn ymdeimlo ag ymadael a'i eglwys yn Wrexham, i gymeryd gofal yr eglwys yn Nghroesoswallt, symudwyd yr athrofa o Groesoswallt yno yn 1792; a chyflawnodd yntau ddyledswyddau ei swydd, fel llywydd ac athraw y sefydliad, er boddlonrwydd hollol i bawb, am yr yspaid o ugain mlynedd. Dygwyd i fyny dan ei ofal yn y tymhor hwnw amryw o weinidogion enwocaf Cymru a Lloegr.
Yn y flwyddyn 1811, gwnaed cynygiad i sefydlu athrofa yn Leaf Square, Manchester, a chymerodd Mr. Lewis ei berswadio i roddi i fyny ei waith fel gweinidog ac athraw yn Wrexham, ac ymgymeryd a llywyddiaeth yr athrofa hono. Ei unig reswm dros ymadael o Wrexham ydoedd, nad oedd mor llwyddianus yn y weinidogaeth ag y dymunasai. Ond siomwyd ef yn ei ddisgwyliadau yn Manchester. Methodd yr athrofa yno a llwyddo, a thorwyd hi i fyny. Y pryd hwnw bu yr eglwys yn New Windsor, Manchester, yn daer iawn am iddo dderbyn galwad oddiwrthi, a bu ei hen eglwys yn Wrexham yn deisyf arno ddychwelyd yno, ond gwrthododd y ddau gynygiad, a derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys ieuangc yn Hope Chapel, Casnewydd. Symudodd yno, fel y gwelsom yn nechreu y flwyddyn 1815. Tua'r flwyddyn 1821, bu yr Arglwyddes Barham yn daer am iddo ymgymeryd ag arolygiaeth yr achosion Saesonaeg a gychwynasid ganddi hi yn Mrowyr, Morganwg, ond tueddwyd ef gan daerni ei bobl yn y Casnewydd i aros gyda hwy, ac felly y gwnaeth nes iddo gael galwad i wlad well. Cafodd ergyd ysgafn o'r parlys tua deng mlynedd cyn ei farwolaeth, ond nid effeithiodd ddim ar ei lafar. Parhaodd i bregethu yn fuddiol ac effeithiol iawn hyd o fewn pythefnos i'w farwolaeth, a dywedir fod ei bregethau yr wythnosau olaf o'i fywyd yn fwy toddedig a nefolaidd nag arferol. Ei destyn diweddaf oedd 1 Cron. xvii. 21., pregethodd oddiwrth y testyn hwnw nos Sul, Gorphenaf 24ain, 1831, yn anghyffredin o felus ac effeithiol. Bu yn fywiog iawn yn y cyfarfod gweddi nos dranoeth, a dydd Mawrth, bu mewn cyfeillach grefyddol gyda nifer o gyfeillion Cymreig. Aeth i'w wely y nos hono, ac ni chyfododd mwyach. Bernir iddo gael ergyd o'r apoplexy; ond ni chafodd un effaith ar ei synwyrau na'i lafar. Y Sul olaf y bu fyw, yr oedd ei gyfaill Mr. Davies, Penywaun, yn llenwi ei bwlpud. Aeth Mr. Davies rhwng y ddwy oedfa i'w weled, a phan ofynodd iddo pa fodd yr ydoedd, atebodd, "Nid wyf yn teimlo un poen yn fy nghorff, ac y mae fy meddwl yn berffaith dawel." "Mac yr Arglwydd yn dda iawn i chwi, Syr," ebe Mr. Davies; atebodd yntau, gyda phwyslais nodedig o effeithiol, "Ydyw, mae yr Arglwydd wedi bod yn dda iawn i mi, mae yr Arglwydd yn dda iawn i mi, ac fe fydd yr Arglwydd yn dda iawn i mi dros byth." Bu farw yn y teimlad nefolaidd hwn bore dydd Iau, Awst 11eg, 1881, yn 71 oed, a chladdwyd ef yn mynwent hen gapel Heol-y-felin. Y Sabboth, Awst 28ain, pregethodd ei hen gyfaill, Mr. Roberts, Llanbrynmair, ei bregeth angladdol i dorf fawr a galarus, oddiwrth Psalm cxvi. 15.