Edmund G. Williams. Dechreuodd bregethu yn 1832. Pan osodwyd i fyny yr athrofa yn Aberhonddu, yr oedd ef yn mysg y rhai cyntaf a dderbyniwyd yno. Ar orpheniad ei amser yn yr athrofa, urddwyd ef yn y Sketty, yn 1843. Yn mhen ychydig flynyddau, cafodd ar ei feddwl i ymuno a'r Eglwys Sefydledig, ac y mae er's blynyddau bellach yn gaplan y carchar-dy yn Abertawy. Mae Mr. Williams, er iddo gefnu ar Ymneillduaeth, wedi ymddwyn yn anrhydeddus a gonest at y sefydliad lle y derbyniodd ei addysg i'r weinidogaeth, trwy danysgrifio yn flynyddol at ei dreuliau.
John Lewis. Dechreuodd yntau bregethu yr un amser a Mr. Williams. Yn mhen rhai blynyddau cafodd ei urddo yn Maesllech, ac oddiar ei ymadawiad oddiyno ni bu yn y weinidogaeth mewn unrhyw le.
Thomas Howells. Dechreuodd bregethu tua'r flwyddyn 1842. Ar ol bod am lawer o flynyddau yn bregethwr cynnorthwyol derbyniol, yn 1861, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys Annibynol yn Trudoxhill, gerllaw Warminster, ac yno y mae hyd yn bresenol.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL
DAVID DAVIES. Ganwyd ef yn Ffynonygog, yn mhlwyf Llanfihangel, Rhosycorn, sir Gaerfyrddin, Medi 14eg, 1791. Yr oedd ei rieni yn aelodau ffyddlon o'r eglwys Annibynol yn y Gwernogle, a dygasant eu plant i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Dafydd oedd yr ieuengaf o'r plant. Pan yr oedd tua phymtheg oed, derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn y Gwernogle. Yn mhen ychydig amser wedi hyny anogwyd ef i ddechreu pregethu. Ar ol bod tua dwy flynedd yn pregethu yn achlysurol, aeth i Gaerfyrddin, i ysgol Ramadegol Mr. Peter, ac wedi bod yno tua dwy flynedd, derbyniwyd ef i'r athrofa. Ar orpheniad ei amser yno cafodd anogaeth i fyned i'r New Inn, Mynwy, i gadw ysgol, ac i gynnorthwyo Mr. Thomas Walters yn y weinidogaeth, ac mewn bwriad i fod yn ganlyniedydd iddo. Ond rhywfodd methwyd a chyduno ar hyny, ac fel y crybwyllasom, pan oedd Mr. Davies ar fyned i ymadael o'r ardal, anogwyd ef gan dair o wragedd da eu gair i ymsefydlu yn ardal Penywaun. Yno, fel y gwelsom, y treuliodd weddill ei oes yn ddefnyddiol iawn. Yn 1822, ymunodd mewn priodas a Miss Amy Waters o'r Ton, o'r hon y cafodd dri o blant, ond buont oll feirw ar eu genedigaeth. Bu Mrs. Davies dros amryw o flynyddau olaf ei hoes yn wael iawn ei hiechyd, a bu farw wedi hir nychdod, yn Medi 1838. Yn fuan wedi hyny dechreuodd Mr. Davies ei hun waelu yn ei iechyd, a bu farw Awst 6ed, 1840, yn 49 oed. Ar y 10fed o'r un mis, claddwyd ef wrth gapel Penywaun, pryd y gweinyddwyd gan y Meistriaid W. Gethin, Caerlleon; T. Gillman, Casnewydd; E. Rowlands, Pontypool; ac M. Ellis, Mynyddislwyn.
Yr oedd Mr. Davies yn ddyn lled fawr o ran corff, yn gymedrol dew, ac yn lluniaidd iawn. Yr oedd yn ddyn nodedig o fwyn a charedig, ac o angenrheidrwydd yn cael ei barchu a'i anwylo gan bawb o'i gydnabod. Yr oedd ei ymddygiad fel Cristion a gweinidog yn hollol deilwng o'i broffes. Fel pregethwr yr oedd yn felus, ac adeiladol, ac y mae yn sicr y buasai yn boblogaidd iawn, pe buasai ei amgylchiadau yn caniatau iddo fyned yn amlach i gyfarfodydd cyhoeddus. Bu cystudd ei briod, am lawer o flynyddau, a gofal yr ysgol, yr hon a gadwai trwy yr oll o'i fywyd gweinidogaethol, yn rhwystrau iddo fyned oddi cartref ond anfynych iawn.