profiadau uchel yn y capel, ond wrth y dylanwad a adawai ar eu bywyd cyffredin; ac isel iawn y prisiau bob mwynhad crefyddol nad oedd yn terfynu mewn dysgu dynion "i wadu annuwioldeb a chwantau bydol, a byw yn sobr, yn gyfiawn, ac yn dduwiol yn y byd sydd yr awr hon." Nid ydym yn dadleu nad oedd ei olygiadau ar y pethau hyn yn eithafol; ond pa ddiwygiwr mawr a fu yn y byd erioed nad oedd yn eithafol; ac yr oedd Ieuan yn ddiwygiwr yn ngwir ystyr y gair. Yr oedd ynddo ddigon o gydwybod a gonestrwydd, a phenderfyniad i wneyd Luther arall.
Ond nid fel pregethwr a gweinidog yr enwogodd ei hun, er iddo mewn tymor byr ennill iddo ei hun "radd dda;" ond gwnaeth iddo ei hun fel gwladgarwr a dyngarwr, enw anfarwol. Pan y cyhoeddwyd "Adroddiad y Dirprwywyr," y rhai a ddygent y cyhuddiadau bryntaf yn erbyn moesoldeb y genedl, daeth Ieuan allan yn ddiofn i amddiffyn cymmeriad merched ei wlad; a chafodd y cyhuddwyr deimlo llymder y fflangell a'r hon y ffrewyllodd hwy. Daeth ei "Dissent and Morality in Wales" yn llyfr o awdurdod i gyfeirio ato. Yn yr adeg yma yr oedd pwngc addysg y genedl yn cynhyrfu y Dywysogaeth; ac amryw gynnadleddau wedi eu cynal i ystyried pa gynllun a fabwysiedid. Cymerodd ef ochr addysg wirfoddol; ac y mae yn sicr genym iddo ysgrifenu rhai o'r pethau goreu a ysgrifenwyd erioed yn yr iaith Gymraeg o blaid addysg wirfoddol, ac yn erbyn ymyriad y llywodraeth ag addysg mwy nag a chrefydd y deiliaid. Mae barn y wlad er hyny wedi myned dan gyfnewidiad mawr ar y cwestiwn, ond bendith anrhaethol i'r deyrnas oedd y gwrthsafiad a wnaed y pryd hwnw; canys ataliodd addysg y wlad rhag myned yn gwbl i ddwylaw y llywodraeth, yr hon y pryd hwnw ni buasai yn caniatau i Annghydffurfwyr, yr hyn a ganiateir yn awr; heblaw y bu y cyffroad hwnw yn foddion i ddihuno ymadferthoedd yr Ymneillduwyr i gyfranu addysg i'r genedl, yr hyn a brofodd iddynt yn ymarferiad iachusol.
Wrth weled ei iechyd yn adfeilio barnodd Ieuan Gwynedd nas gallasai sefyll yn hwy o flaen arch Duw; ac yn niwedd y flwyddyn 1847, rhoddodd ofal eglwys Saron i fyny, gan benderfynu os caniateid iddo fyw ychydig yn hwy "i wasanaethu ei genedlaeth yn ol ewyllys Duw," y gwnai hyny trwy y wasg, gan fod arwain y bobl wedi myned yn waith rhy drwm iddo. Amgylchiad rhwygedig i'w deimlad ef ac eiddo yr eglwys oedd y datodiad hwn; canys yr oedd ei enaid ef wedi ymglymu wrth eneidiau y bobl, ac eneidiau y bobl wedi ymglymu wrth ei enaid yntau. Mae yr anerchiad ymadawol a roddodd yn un o'r darnau llawnaf o deimlad a thynerwch a ddarllenasom erioed; heblaw fod rhai darnau o honi yn ddihafal fel cyfansoddiad.
Cyn diwedd y flwyddyn 1848, priododd yr ail waith a Miss Lewis, merch y diweddar Mr. Walter Lewis, gweinidog Tredwstan; yr hon a fu iddo yn ymgeledd gymhwys yn holl ystyr y gair. Os bu gwraig dda yn rhodd gan yr Arglwydd i ddyn erioed; ac nid oes os am hyny, yr oedd y wraig rinweddol hon yn rhodd o eiddo yr Arglwydd i Ieuan Gwynedd; ac y mae y peth fu efe i'r byd am y ddwy flynedd olaf o'i fywyd i'w briodoli mewn rhan fawr i'w gofal, ei thynerwch, a'i chydymdeimlad hi.
Wedi ymddeol o'i ofalon gweinidogaethol, bu am ychydig yn golygu y Principality; papur Rhyddfrydig a gyhoeddid gan Mr. David Evans, yr hwn a ddaeth allan ar y cyntaf yn Hwlffordd, ond a symudwyd oddiyno i Gaerdydd; ond fel llawer cynyg da arall yn Nghymru a fu yn aflwyddianus o ddiffyg cefnogaeth. Symudodd Ieuan i Lundain i fod yn un o olygwyr