wyd y capel o wrandawyr, ac yr oedd llaw yr Arglwydd yn amlwg yn eu plith, a gellir dyweyd fod gras mawr arnynt. 'Ychwanegwyd at yr eglwys beunydd y rhai a fydden't gadwedig.' Dau fis ar hugain y bu gofal yr eglwys ar Mr. Davies, a derbyniodd o 50 i 60 yn aelodau yn yr amser hwnw; ac nid rhyw ruthr disymwth ydoedd, ond cynydd graddol a chyson. Dau gymundeb fu yn amser llafur Mr. Davies heb i neb gael eu derbyn. Chwech dderbyniwyd fwyaf ar unwaith, ac ar un cymundeb un yn unig a dderbyniwyd, a'r un hwnw oedd Mr. J. B. Cook, yn awr o Danville, America. Bu ymuniad Mr. Cook yn fantais fawr i'r achos, gan ei fod, heblaw ei ragoriaethau eraill, yn ganwr rhagorol iawn. Darfu i'r rhan fwyaf o'r rhai a dderbyniodd Mr. Davies ddal eu ffordd yn ffyddlon hyd y diwedd. Nid oes ond dau o honynt yn awr ar dir y byw. Nid oedd ond un dan un-ar-bymtheg oed yn eu mysg. Dynion canol oed oeddynt gan mwyaf. Yr oedd yn arferiad gan y gwrandawyr y pryd hwnw i fyned allan ar ol y bregeth cyn y cymundeb. Cymhellodd Mr. Davies hwy yn daer ddau fis neu dri i aros, ond myned yr oeddynt o hyd. Un tro, wrth eu gweled yn myned allan, dywedodd gydag awdurdod, "Wel, os gelynion i Iesu Grist ydych, ewch allan," ar hyny safasant oll yn eu lleoedd, a throdd y rhai oedd wedi myned at y drws yn ol i'w heisteddleoedd, ac ni chynygiodd neb byth mwyach fyned allan cyn y cymundeb. Yr oedd y diffeithwch yn blodeuo fel rhosyn, a'r anialwch fel gardd yr Arglwydd yn Mlaenafon y pryd hwn."[1]
Arferai Mr. Davies hefyd, tra y bu yn gwasanaethu yr eglwys hon, bregethu bob nos Sadwrn cyn y cymundeb yn y Pwlldu, pentref bychan ar lechwedd y mynydd rhwng Blaenafon ac Abergavenny. Yn nhy David Thomas yr arferai bregethu. Bu ei weinidogaeth yno yn foddion i ennill James Davies a'i wraig at yr achos, y rhai fuont yn ffyddlon a defnyddiol iawn hyd derfyn eu hoes. Bu yr aelodau yn y lle hwnw yn cynal eu cyfeillach grefyddol yn nhy y ffyddloniaid hyn am ddeugain mlynedd. Bu y gwr farw yn 1864 a'r wraig yn 1867.
Yr oedd y rhag-grybwylledig David Thomas yn nai i'r nodedig Siencyn Penhydd. Mae ein cyfaill, Mr. J. E. Williams, yn rhoddi yr hanes canlynol am dano: "Tybiaf iddo fod yn aelod gyda'r Methodistiaid pan yn ieuangc, ond bu yn fachgen drwg wedi hyny. Tua chanol ei ddydd ymwelodd yr Arglwydd ag ef trwy weinidogaeth Mr. E. Jones, Pontypool, ac ymunodd ag eglwys Ebenezer, ond nid arosodd yno yn hir cyn symud i Lanelli, Brycheiniog, ac oddiyno i'r Pwlldu, lle y gorphenodd ei yrfa mewn llawn hyder ffydd, yn 1833. Yr oedd y pryd hwnw yn aelod yn Blaenafon, ac yn henuriad yn yr eglwys. Y dyn mwyaf ei ddawn a'i gymhwysder yn yr ysgol Sul a welais erioed ydoedd. Yr oedd ei sêl, ei ymroddiad, a'i serchawgrwydd yn sicrhau iddo ddylanwad ar ddeiliaid yr ysgol yn fwy na neb a adnabum erioed. Byddai bywgraffiad o'r dyn hynod hwn yn drysor i'r ysgol Sul, pe gwnai rhyw un o fedr a deheurwydd ei gymeryd mewn llaw."
Gan fod pobl y New Inn yn anfoddlon gollwng Mr. Davies mor aml i Flaenafon, a bod y bobl yma am ei gael ddau Sul o'r mis, a chan nad oedd nemawr o bregethwr cynnorthwyol yn agos i'r New Inn na Blaenafon i lenwi lle Mr. Davies yn ei absenoldeb, barnwyd y buasai yn well i eglwys Blaenafon edrych am weinidog iddi ei hun. Rhoddwyd galwad unfrydol
- ↑ Llythyr Mr. J. E. Williams.