gysylltiad a'r eglwys hon derfynu yn dra buan. Nis gwyddom am ddim gwerth ei gofnodi a ddygwyddodd yn hanes yr eglwys yn ei dymor byr ef.
Er i dair o ganghenau fyned allan o'r fam-eglwys mewn yspaid chwe' mlynedd, parhaodd yr eglwys a'r gynnulleidfa yn Seion yn lluosog a thra llewyrchus, o amser agoriad y capel yn 1838 hyd yn bresenol.
Yn y flwyddyn 1851, rhoddwyd galwad i Mr. William P. Davies, gwr ieuangc genedigol o ardal Llanymddyfri, a myfyriwr ar y pryd yn athrofa Aberhonddu. A ganlyn yw yr hanes a roddir o'i urddiad yn y Diwygiwr am Awst 1851: "Gorphenaf 1af a'r 2il, neillduwyd y brawd W. Davies o goleg Aberhonddu, i waith y weinidogaeth yn Seion, Rhymni. Prydnawn y dydd cyntaf, am 6, dechreuwyd gan Mr. Thomas, hen wr o Gonwy; a phregethodd y Meistriaid Phillips, Llangynidr; a Thomas, Glynnedd. Boreu уг ail ddydd, am haner awr wedi chwech, cynaliwyd cwrdd gweddi gan y gweinidogion. Am ddeg, dechreuwyd gan Mr. Powell, Caerdydd; traddodwyd pregeth ar natur eglwys gan Mr. Davies, Llanelli, Brycheiniog, yn bwrpasol a didramgwydd. Holwyd y gweinidog ieuangc gan Mr. Evans, Tredegar. Dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. Rees, Cendl. Rhoddwyd siars i'r gweinidog gan Mr. Davies, A.C., athraw clasurol, Aberhonddu; a siars i'r eglwys gan Mr. Stephens, Brychgoed. Am 2, dechreuwyd gan Mr. Jones, coleg Aberhonddu; a phregethwyd gan y Meistriaid Hughes, Penmain; a Jones, yr Aber. Am 6, dechreuwyd gan Mr. R. Jones, o goleg Aberhonddu; a phregethwyd gan y Meistriaid Roberts, Pendarren; a Rees, Cendl; a gorphenwyd gan Mr. Powell, Caerdydd. Cafwyd cyfarfodydd go dda o'r dechreu i'r diwedd."
Mae Mr. Davies wedi bod yn llafurio yn y cylch hwn bellach er's pedair blynedd ar bymtheg, a thrwy yr holl amser mae yr eglwys wedi bod yn dangnefeddus, ac i raddau yn llwyddianus, a'r gweinidog yn sefyll yn uchel, nid yn unig yn nghyfrif ei gynnulleidfa ei hun, ond hefyd yn ngolwg holl breswylwyr y lle, yn grefyddol a digrefydd. Yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf ni bu y gynnulleidfa yn segur; casglodd ganoedd o bunau, nid yn unig i ddileu dyled y capel, ond hefyd at dalu dyled yr ysgoldy Brytanaidd.
Gan fod y capel yn sefyll ar le lled noeth, fel yr oedd y tywydd wedi effeithio yn lled ddrwg arno, barnwyd yn angenrheidiol ei adgyweirio, yr hyn a wnaed yn y flwyddyn 1866. Yn y Diwygiwr am Medi y flwyddyn hono cawn yr hanes canlynol: "Tua blwyddyn yn ol penderfynwyd adgyweirio y capel hwn gan ei fod wedi myned i ymddangos yn henaidd a dadfeiliedig. Cymerwyd y gorchwyl trwy gytundeb gan Mr. David Davies, adeiladydd, Rhymni, yr hwn a'i gorphenodd er boddhad cyffredin ol i'r eglwys a'r gynnulleidfa, fel ag y mae Seion yn awr yn un o'r addo dai mwyaf hardd a chyfleus yn y Dywysogaeth. Codwyd y nenfwd y agos i dair troedfedd yn uwch, gostyngwyd yr oriel, ad-drefnwyd corau ar y llawr, gwnaed areithfa newydd, gwned hefyd y drysau a'r ffenestri i gyd o'r newydd; gosodwyd rheilgae haiarn hardd o flaen y capel oddi allan; ac y mae nwy wedi ei osod i'w oleuo. Costiodd yr oll tua 600p. Cymerodd yr agoriad le y Sabboth a'r Llun, Gorphenaf 15ed a'r 16eg. Bore y Sabboth, am 10, dechreuwyd yr oedfa gan y Parch. T. Evans, Talgarth; a phregethwyd yn nerthol a hyawdl gan yr Hybarch D. Williams, Troedrhyiwdalar, oddiwrth Col. i. 27. Am 2, y prydnawn, daeth y fath nifer yn nghyd fel na chynwysai y capel eang fwy na haner