eglwys alwad i Mr. Thomas Jeffreys, ei gweinidog presenol. Ganwyd Mr. Jeffreys yn Nghaerdydd yn 1810. Ymunodd a chrefydd yn Dowlais cyn ei fod yn 18 oed, a dechreuodd bregethu cyn ei fod yn 21 oed, trwy gymhelliad yr eglwys a'r gweinidog, y Parch. Samuel Evans, yr hwn oedd y pryd hwnw yn weinidog Bethania, Dowlais, yn gystal a Soar, Merthyr. Urddwyd Mr. Jeffreys yma Rhagfyr 24ain a'r 25ain, 1838. Ceir yr hanes canlynol am gyfarfodydd yr urddiad yn y Diwygiwr am Mawrth 1839, tudalen 90:—"Ar y 24ain a'r 25ain o Ragfyr, neillduwyd y brawd Thomas Jeffreys i gyflawn waith y weinidogaeth yn Saron, Penycae. Am 6, y dydd cyntaf, dechreuodd y Parch. H. Daniel, Tabor; a phregethodd y Parchedigion J. Davies, Abersychan; D. Roberts, Dowlais; a J. Davies, Aberdare; oddiwrth Mat. viii. 25; Luc xx. 35, 36; Eph. ii. 4. Boreu Nadolig, am 5, dechreuodd L. Smith; a phregethodd H. Daniel, Tabor, ac E. Watkins, Llanelli; oddiwrth Luc i. 32; a Ioan i. 14. Am 10, dechreuodd y Parch. D. Davies, Taf-fechan; a phregethodd y Parch. D. Stephenson, Nantyglo, ar natur eglwys Gristionogol, oddiwrth Ioan xviii. 36; y Parch. J. Ridge, a ofynodd yr holiadau arferol; y Parch. E. Rowlands, Ebenezer, a ddyrchafodd yr urdd-weddi; yna pregethodd y Parch. J. Hughes, Dowlais, ar ddyledswydd y gweinidog; a'r Parch. H. Jones, Tredegar, ar ddyledswydd yr eglwys, oddiwrth Ioan xxi. 17, a Heb. xiii. 17. Am 3, dechreuodd y Parch. W. Watkins, Rhymni; a phregethodd y Parchedigion E. Rowlands, Ebenezer; J. Jones, Penmain, (yn Saesonaeg); a J. Thomas, Adulam; oddiwrth 2 Bren. ii. 14, Marc ix. 24, a 2 Cor. iii. 7, 8, 9. Am 6, dechreuodd J. Richards, Dowlais; a phregethodd y Parchedigion W. Watkins, Rhymni; a D. Davies, Taf-fechan; oddiwrth Ioan iv. 35-38, a Heb. ix. 27. Yr oedd y cynnulliad yn dra lluosog, ac arogl esmwyth ar y cyfarfod o'i ddechreu i'w ddiwedd." Nid oedd ond ychydig dros 60 o aelodau yn y lle pan ymsefydlodd Mr. Jeffreys yma, ond cynyddodd yr achos yn fuan fel y daeth yma eglwys gref a dylanwadol. Cafodd Mr. Jeffreys dipyn o helbul yn fuan wedi ei sefydliad yma, drwy fod rhyw gamddealldwriaeth rhwng adeiladydd y capel a'r cyfeillion yn y lle. Mynasant hwy saerfesurydd i brisio gwerth y capel, a mynodd yr adeiladydd un arall i'w brisio, ac yr oedd yr olaf gan' punt yn uwch na'r blaenaf. Bygythiwyd hwy yn mhob modd oblegid na thalent yn ol y prisiad uwchaf; ond trwy bwyll a doethineb Mr. Jeffreys llwyddwyd i gael gan yr adeiladydd foddloni i ganolwr i'w brisio rhwng y ddau brisiwr blaenorol; ac yn ffodus i'r eglwys prisiodd hwnw ef yn is na'r prisiad isaf; ac felly arbedwyd i'r eglwys yn agos i 115p. Llwyddodd Mr. Jeffreys ddwyn yr ysgol Sabbothol i drefn, a thrwy ei wresowgrwydd fel pregethwr, a'i hawddgarwch fel dyn a Christion ennillodd lawer i wrando arno, ac y mae wedi parhau i ymgodi mewn parch yn ngolwg y bobl. Bu cryn adfywiad ar yr achos y gwanwyn cyntaf wedi urddiad Mr. Jeffreys, fel yr ychwanegwyd tua 60 at yr eglwys yn y chwe' mis cyntaf o'i weinidogaeth; a chyn pen dwy flynedd yr oedd yr eglwys yn fwy na 200 o rifedi. Aeth y capel yn llawer yn rhy fychan i gynwys y gynnulleidfa, ac estynwyd ef fel y mae agos yn gymaint arall a'r hen gapel. Costiodd yr helaethiad 350p., ac ar y 24ain a'r 25ain o Ragfyr, 1850, ail agorwyd ef, pryd y gweinyddwyd gan Meistriaid Lewis, Llanfaple; Griffiths, Blaenafon; Watkins, Llangatwg; Richards, Aberhonddu; Thomas, Graig, Rhymni; Daniel, Pontypool; Hughes, Victoria; Davies, New Inn; Griffiths, Casnewydd; Havard, Tredwstan; Lewis, Coed-duon; Jenkins, Brynmawr;
Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/222
Gwedd