Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 1.djvu/239

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

at ardal Cwmbran, ac fel prawf o'i ewyllys da rhoddodd i'r ardalwyr eu capel cyntaf heb ddim dyled arno. Wedi sicrhau yr adeilad yn addoldy i'r enwad, ad-drefnwyd ef yn lle cyfleus at addoli, ac ar yr 8fed a'r 9fed o Ebrill, 1837, agorwyd ef yn gyhoeddus; a ffurfiwyd eglwys ynddo cynwys edig o 32 o aelodau. Bu gofal yr eglwys am y blynyddoedd cyntaf ar Mr. Davies, New Inn, ond cynnorthwywyd ef gan Mr. John Thomas; Mr. John Lewis, Penywaun; Mr. John Davies, Cilcenin, (y dyn dall), ac eraill. Bu gweinidogaeth y "dyn dallo Gilcenin," fel ei gelwid, yn dderbyniol iawn yn y parthau hyn o Fynwy yn y blynyddoedd hyn.

Rhoddodd Mr. Davies, New Inn, yr eglwys i fynu oblegid fod y cylch yn rhy eang iddo; a rhoddwyd galwad i Mr. Edward Williams, Llanfairmuallt, yr hwn a lafuriod d yno o 1848 hyd 1852, pryd y symudodd i gymeryd gofal eglwys Brynbiga. Bu yr eglwys am rai blynyddoedd heb weinidog ar ol ymadawiad Mr. Williams, ond at Mr. Davies, New Inn, yr edrychent am help pan elai yn gyfyng arnynt, oblegid yr oedd efe bob amser yn noddwr caredig i'r achos.

Yn y flwyddyn 1859, aeth y gynnulleidfa yn nghyd ag ail-adeiladu eu haddoldy; ac ar y 7ed a'r 8ed, o Dachwedd yn yr un flwyddyn, cynnaliwyd cyfarfodydd ei agoriad. Pregethwyd gan Meistri T. Rees, Čendl; P. Griffiths, Alltwen; J. Davies, Taihirion; R. Thomas, Hanover; A. Mac Auslane, Casnewydd; E. Williams, Brynbiga; a G. Griffiths, Casnewydd. Tynwyd baich trwm ar yr eglwys drwy godiad y capel newydd, ond trwy ffyddlondeb a chydweithrediad yr eglwys y mae y ddyled oll ond 20p. wedi ei thalu. Yn haf y flwyddyn ganlynol, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. John M. Jones, myfyriwr yn athrofa Aberhonddu; a chynhaliwyd cyfarfodydd ei urddiad, Medi 18eg a'r 19eg, 1860. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Roberts, Athraw Clasurol Aberhonddu. Holwyd gofyniadau gan Mr. B. Williams, Gwernllwyn, Dowlais, yr hwn a gyflwynodd Feibl yn anrheg i Mr. Jones oddiwrth Ysgol Sabbothol Gwernllwyn.[1] Dyrchafwyd yr urdd-weddi gydag arddodiad dwylaw gan Mr. D. Davies, New Inn. Pregethwyd siars i'r gweinidog gan Mr. J. Morris, Athraw Duwinyddol Aberhonddu, ac i'r eglwys gan Mr. T. Gillman, Casnewydd. Ni bu Mr. Jones yma yn hir, oblegid yn fuan symudodd i Bethesda, Brynmawr; ac er ei ymadawiad ef, y mae yr eglwys wedi bod dan ofal Mr. Davies, New Inn. Ysgydwodd y symudiadau trwy ansefydlogrwydd y gweithfeydd lawer ar yr eglwys yn y lle, ac ymfudodd llawer o bryd i bryd i America[2]. Mae yma Ysgol Sabbothol luosog, a'r Eglwys wedi bod bob amser yn heddychol a thangnefeddus; ac i raddau dymunol, ac ystyried ansawdd weithfaol y lle, wedi bod yn lân oddiwrth ddiotwyr a chyfeddachwyr a chymeriadau llygredig felly. Mae y lle wedi myned yn hollol Seisnigaidd, fel mai cwbl ddifudd fyddai pregethu Cymraeg i'r bobl, ac yn ei sefyllfa drawsnewidiol y mae yr achos wedi dal heb golli tir.

Mae John Thomas, aelod gwreiddiol o Brynberian, ond sydd yn y wlad yma er's 35 o flynyddoedd yn bregethwr derbyniol a chymeradwy yn yr eglwys.

William Barwell-a ddechreuodd bregethu yma, ac a aeth i'r Congregational Institute, Bristol, i dderbyn addysg; ac wedi bod yno am dair blynedd, urddwyd ef yn Devonshire, lle y mae gofal tair o eglwysi bychain arno. Mae ei dad yn ddiacon parchus yn Nghwmbran, a'i fam yn "un

  1. Diwygiwr, tudalen 345, 1860.
  2. Llythyr Mr. D. Davies, New Inn